Arolwg Mawr y Cyn-fyfyrwyr
Hoffen ni ddysgu mwy amdanoch chi, ein cymuned o gyn-fyfyrwyr - beth sy'n eich ysgogi chi a sut gallwn ni ymgysylltu â chi a'ch cefnogi chi'n well.
Fel un o raddedigion Abertawe, mae eich cysylltiad â ni am oes, ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau'r cysylltiad hwnnw â chi.
Trwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, byddwch chi'n helpu'r Brifysgol i ddeall anghenion ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn well. Sut rydych chi’n teimlo am eich perthynas â ni? Sut rydych chi'n rhyngweithio â'r Brifysgol a chyn-fyfyrwyr eraill? Sut gallwn ni fod yn fwy perthnasol i chi heddiw?
Mae Arolwg Mawr y Cyn-fyfyrwyr, a gynhelir bob 5 mlynedd, yn gyfle i chi rannu eich barn â ni. Bydd eich adborth gonest yn ein helpu ni i greu profiad sydd wedi'i deilwra i'ch anghenion a'ch diddordebau chi ac yn ein helpu wrth lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
I ddiolch i chi am gymryd rhan, rydym yn cynnig cyfle i chi ennill bag nwyddau Prifysgol Abertawe, gan gynnwys eich set Monopoly Abertawe eich hun!
Arolwg Mawr y Cyn-fyfyrwyr