Bob 30 eiliad, bydd plentyn yn clicio ar-lein am y tro cyntaf. Er bod y rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddysgu a chysylltu â phobl eraill, mae ganddi ochr dywyll hefyd, lle mae plant yn agored i niwed. Amcangyfrifir y bydd tua 750,000 o unigolion yn ceisio cysylltu â phlant ar-lein at ddibenion rhywiol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol.
Mae'r rhai sy'n meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol ar-lein yn defnyddio iaith i feithrin perthynas â'r plant y maent yn eu hysglyfaethu, er mwyn ennill ymddiriedaeth y plant ac yna ei bradychu, gan gymryd mantais o natur gymdeithasol fendigedig plant, eu caredigrwydd a'u chwilfrydedd. Mae'r prosiect DRAGON-S yn gweithio i gadw plant yn ddiogel rhag y math hwn o gam-drin plant â chymorth technoleg (mae DRAGON-S yn derm byr ar gyfer Developing Resistance Against Grooming Online – Spot and Shield).
Yn ystod 2021-22, bydd ein tîm ymchwil a datblygu yn datblygu cyfarpar o'r radd flaenaf sy'n gyfrifol yn foesegol (Spotter a Shield) i helpu i ganfod ac atal meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol ar-lein.
Os hoffech ddysgu rhagor am ein gwaith, mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am y tîm , dolenni i ymchwil sydd ar gael yn gyhoeddus, a diweddariadau ynghylch datblygiad ein prosiect.