Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Ein Cyfadrannau
  4. Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
  5. Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau
  6. Canolfannau A Grwpiau Ymchwil Celfyddydau A Dynoliaethau
  7. CREW
  8. Symposia’r Canmlwyddiant: Raymond Williams yng nghyfnod Globaleiddio
  9. Adnoddau
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Ein Cyfadrannau
  4. Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
  5. Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau
  6. Canolfannau A Grwpiau Ymchwil Celfyddydau A Dynoliaethau
  7. CREW
  8. Symposia’r Canmlwyddiant: Raymond Williams yng nghyfnod Globaleiddio
  9. Adnoddau

Adnoddau

Tudalennau cysylltiedig
  • Symposia’r Canmlwyddiant: Raymond Williams yng nghyfnod Globaleiddio
    • Prosiect Manifesto Ysgolion
    • Ynghylch Raymond Williams
    • Cynadleddau’r Canmlwyddiant
    • Adnoddau
    • Digwyddiadau Eraill
    • Recordiadau Symposia

Llyfrau ac Erthyglau

Dix, Hywel Rowland, After Raymond Williams: Cultural Materialism and the Break-Up of Britain (Cardiff: University of Wales Press, 2008).

Dworkin, Dennis L., and Leslie G. Roman, gol., Views Beyond the Border Country: Raymond Williams and Cultural Politics (London: Routledge, 1993).

Eagleton, Terry, gol., Raymond Williams: Critical Perspectives (Cambridge: Polity Press, 1989).

Eldridge, John a Lizzie Eldridge, Raymond Williams: Making Connections (London: Routledge, 1994).

Fuchs, Christian, ‘Raymond Williams’ Communicative Materialism’ in European Journal of Cultural Studies 20.6 (2017), tt.744-762 <DOI:10.1177/1367549417732998>.

Higgins, John, Raymond Williams: Literature, Marxism and Cultural Materialism (Abingdon: Routledge, 1999).

Inglis, Fred, Raymond Williams (London: Routledge, 1995).

McGuigan, Jim, Raymond Williams: Cultural Analyst (Bristol: Intellect, 2019).

O’Connor, Alan, Raymond Williams (Oxford: Rowman & Littlefield Publishers Inc, 2006).

Pinkney, Tony, Raymond Williams (Bridgend: Seren Books, 1995).

Prendergast, Christopher, gol., Cultural Materialism: On Raymond Williams (London: University of Minnesota Press, 1995).

Seidl, Monika, Roman Horack and Lawrence Grossberg, eds., About Raymond Williams (London: Routledge, 2010).

Smith, Dai, Raymond Williams: A Warrior’s Tale (Cardigan: Parthian Books, 2008).

Stasi, Paul, gol., Raymond Williams at 100 (London: Rowman & Littlefield, 2021).

Wallace, Jeff, Rod Jones a Sophie Nield, gol., Raymond Williams Now: Knowledge, Limits and the Future (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 1997).

Williams, Daniel G., ‘To Know the Divisions: The Identity of Raymond Williams’ in Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century (Cardiff: University of Wales Press, 2015), tt.93-111.

Ar-lein

Ymwelwch â gwefan y Raymond Williams Foundation.

Ymwelwch â gwefan y Raymond Williams Society.

Ymwelwch â sianel YouTube y Raymond Williams Society.

Ymwelwch â gwefan 'Raymond Williams and Keywords' (Prifysgol Pittsburgh).

Archifol

Casgliad Raymond Williams, Archifau Richard Burton

Papurau Raymond Williams, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ymchwil ar Raymond Williams yn Abertawe

Cyflwynwyd papurau Raymond Williams i Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe, gan Dai Smith yn dilyn ei benodi’n Athro yn y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW) yn 2005. Bu CREW, o dan arweiniad M. Wynn Thomas, Kirsti Bohata a Daniel G. Williams, yn hybu ac annog gwaith ar Raymond Williams fyth ers hynny. Cyhoeddodd Dai Smith ei gofiant Raymond Williams: A Warrior's Tale (Aberteifi: Parthian) yn 2008 ac, fel golygydd ‘The Library of Wales’ a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, fe ddaeth â’r nofelau Border Country a The Volunteers yn ôl i brint. Mae sawl cyfrol yng nghyfres CREW 'Writing Wales in English', a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru, (gan Stephen Knight, Hywel Dix a Daniel G. Williams) yn dadansoddi ysgrifau Williams. Cwblhawyd dau draethawd doethuriaeth ar Williams yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan Clare Davies a Daniel Gerke, tra bod myfyrwyr PhD eraill yn CREW wedi tynnu ar ysgrifau Raymond Williams mewn ffyrdd trawiadol o wreiddiol, yn enwedig Charlotte Jackson, Kieron Smith a Liza Penn-Thomas. Mae'r ystod o gyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan waith ar yr archif - o 'Raymond Williams on Film' gan Dana Polan (Cinema Journal 52: 3, Gwanwyn 2013) i The Nostalgic Imagination (2019) gan Stefan Collini yn drawiadol, a’r gwaith hwn wedi elwa o arbenigedd yr archifwyr yn Archifau Richard Burton, yn enwedig Katrina Legg.

Cyhoeddwyd argraffiad newydd o gasgliad Daniel G. Williams o draethodau Raymond Williams ar Gymru, Who Speaks for Wales: Nation, Culture, Identity yn 2021. Fe’i lansiwyd yng Ngŵyl y Gelli yng nghwmni Michael Sheen a Leanne Wood. Ers ymddangosiad cyntaf y gyfrol yn 2003 mae’r diddordeb yng Nghymreictod Williams wedi cynyddu, a’r rôl chwaraeodd ei hunaniaeth yn ei syniadaeth wedi bod yn destun tarfod mewn cynadleddau o Berlin (Harald Pittel a Michael Krause) i Poznan (Karolina Rosiak), o Regensburg ( Peter Waller) i Campinas (Alexandro Henrique Paixão ac Anderson Ricardo Trevisan).

Mae papurau Raymond Williams wedi denu llawer o ysgolheigion rhyngwladol i Abertawe, gyda Mingying Zhou (Prifysgol Lingnan, Hong Kong), Carla Baute (Universidade Estadual de Campinas, Brasil) ac Ugo Rivetti (Prifysgol Sao Paulo, Brasil) yn aros am gyfnodau estynedig o ymchwil . Datblygodd cysylltiad agos rhwng CREW a'r Raymond Williams Kenkyu yn Japan gan arwain at gynadleddau yn Abertawe, Pandy a'r Drenewydd (yng Nghymru), a Tokyo, Osaka a Nogata (yn Japan). Mae'r digwyddiadau hyn wedi arwain at gyfres o gyhoeddiadau gan gynnwys rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn Keywords (Cyf. 9, 2011), sawl rhifyn o’r cyfnodolyn Raymond Williams Kenkyu (2010 - 2018), a dau gasgliad o ysgrifau Williams yn Siapaneg, gan gynnwys rhai o’i ysgrifau ar Gymru (Culture is Ordinary and Other Essays (2013) a The Tenses of the Imagination and Other Essays (2016)). Ymweliad Shintaro Kono a Takashi Onuki â Abertawe yn 2009 oedd cychwyn y cysylltiad, a bu’r ddau yn Gymrodyr Rhyngwladol Canolfan Richard Burton o 2015-16. Mae Symposia’r Canmlwyddiant ar ‘Raymond Williams yng Nghyfnod Globaleiddio’ yn adeiladu ar y cysylltiadau rhyngwladol yma.

Casgliad Raymond Williams ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Casgliad Raymond Williams wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth gan ymchwilwyr o’r Deyrnas Gyfunol yn ogystal ag o bob rhan o’r byd, gyda phobl yn teithio o Japan, Brasil, China ac Unol Daleithiau America i ymgynghori â’r papurau. Mae’r Archifau bob amser yn awyddus i groesawu darllenwyr hen a newydd fel ei gilydd. Mae'r Casgliad yn rhan o gasgliad Awduron Saesneg Cymru yn Archifau Richard Burton, ac yn cadw cwmni i bapurau awduron fel Ron Berry, Elaine Morgan ac Alun Richards.

Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol ac archif Prifysgol Abertawe. Mae'r Archifau, a dderbyniodd Achrediad Gwasanaeth Archifau yn 2014, yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol i ddatblygu rhagoriaeth ymchwil, i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr, ac i gyfoethogi bywyd cymunedol a diwylliannol Cymru a thu hwnt. Mae Casgliad Raymond Williams yn cyfrannu at hyn.

Daethpwyd â’r casgliad ynghyd gan Joy Williams, gweddw Raymond Williams, ac fe fu’n sail i’r ymchwil a gwblhaodd Dai Smith ar gyfer ei gofiant Raymond Williams: A Warrior’s Tale. Roedd y casgliad yn anhygyrch i ymchwilwyr pan y’i cyflwynwyd i’r Brifysgol, ond yn 2010 derbyniwyd cyllid gan Ymddiriedolaeth Barry Amiel a Norman Melburn i alluogi archifydd i gatalogio’r papurau. Cymerodd y gwaith o drefnu'r papurau a chreu catalog ar-lein flwyddyn i’w gwblhau.

Mae papurau Raymond Williams yn helaeth ac amrywiol. Mae cwmpas y casgliad yn rhedeg o’r 1940au i'r 1980au, ac yn cynnwys 61 o flychau. Mae'r casgliad yn cynnwys fersiynau o'i weithiau creadigol a beirniadol niferus gan gynnwys nofelau, straeon byrion, dramâu, ffilmiau, barddoniaeth, cyhoeddiadau damcaniaethol ac academaidd, adolygiadau ac erthyglau papur newydd, sgyrsiau a darlithoedd a llawer mwy. Mae yna gyfres sylweddol o lythyrau, gan gynnwys awduron fel E P Thompson, Richard Hoggart a Stuart Hall yn ogystal â sefydliadau fel Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear a’r New Left Review.

  • Mae rhai eitemau yn y casgliad wedi bod o ddiddordeb arbennig i ymchwilwyr i waith Raymond Williams:
    ei lyfrau nodiadau, yn enwedig y ddwy gyfrol gynharaf o'r adeg pan oedd Raymond Williams yn byw yn 44 St Helen's Road, Hastings. Maent yn cynnwys syniadau, amlinelliadau a chynlluniau helaeth ar gyfer ei waith yn y dyfodol. (cyf. WWE / 2/1/12 / 1-2)
  • drafftiau ar gyfer ‘Border Village’ / ‘Border Country’ (cyf. WWE / 2/1/1 / 5-6) (i gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn ac enghreifftiau o’r casgliad gweler y cofnod yn Literary Atlas Wales)
  • dogfennau yn datgelu ei gymeriad, er enghraifft ei ddyddiadur ar gyfer 'Xmas Holiday Lectures in London’ a drefnwyd gan y ‘L [eague of] N [ations] U [nion]', a ffurflen aelodaeth adnewyddu ar gyfer LNU, 1937-1939 (cyf. WWE / 2/1/17/1/1) a llythyrau diweddarach a phapurau swyddogol ynghylch gwasanaeth milwrol a gwrthwynebiad / heddychiaeth gydwybodol, 1944-1951 (cyf. WWE / 2/1/17/4).

Mae syniadau Raymond Williams am ddiwylliant, drama a llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, cyfathrebu a'r cyfryngau, cymdeithaseg, iaith, technoleg, hanes, rhyfel, dosbarth, addysg, cenedlaetholdeb, I’w canfod yma, a dyma rhai yn unig o'r agweddau niferus y gellir eu harchwilio yn y casgliad.

This is an image of Raymond Key words in Welsh

Mae gweddill yr archif yn cynnwys papurau Joyce Williams, gwraig Raymond Williams, cofnodion ei rieni Harry a Gwen Williams (gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o ddyddiaduron Harry a sawl cerdyn a anfonwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf), a deunydd gan Dai Smith sydd yn ymwneud a chyhoeddi Raymond Williams: A Warrior's Tale.

Mae'r archifwyr yn edrych ymlaen at gydweithio gyda llawer mwy o bobl. Archwiliwch y catalog ar-lein, edrychwch ar dudalennau gwe'r Archifau i gael gwybodaeth am sut i ymweld, a chysylltwch â ni os hoffech ddod yma i weithio yn yr archif.

https://blog.archiveshub.jisc.ac.uk/2017/10/02/raymond-williams-papers-at-the-richard-burton-archives-swansea-university/

https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/bcb0f9ef-f287-3e6a-a544-f2bb2c277f73

Katrina Legg, Archifydd Cynorthwyol

  • Symposia’r Canmlwyddiant: Raymond Williams yng nghyfnod Globaleiddio
    • Prosiect Manifesto Ysgolion
    • Ynghylch Raymond Williams
    • Cynadleddau’r Canmlwyddiant
    • Adnoddau
    • Digwyddiadau Eraill
    • Recordiadau Symposia
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342