Rydym wrth ein boddau'n ymweld ag ysgolion a cholegau yn ogystal â chynnig gweithdai digidol i ysbrydoli disgyblion i ddilyn y trywydd iawn i addysg uwch.
Gall ein gweithdai gynnwys unrhyw rai o'r gweithgareddau isod:
- Gweithdai wedi'u teilwra a sesiynau rhagflas gydag academyddion sy'n addysgu ein cyrsiau.
- Cwrdd â myfyrwyr presennol: Bywyd myfyriwr
- Teithiau tywys o amgylch y Coleg a'r Campws
- Gweithdy Cyflogadwyedd: dewch i ddysgu pam rydym ni ymysg 5 prifysgol orau'r DU am Ragolygon Gyrfa. Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys cyngor ar gyflwyno ceisiadau am swyddi, sut i ymddwyn mewn cyfweliad a drafftio CV gyda'n Tîm Cyflogadwyedd mewnol a phwrpasol.
- Diwrnodau rhagflas ar gyfer myfyrwyr Blynyddoedd 10-12.
- Gallwn drefnu i un o'n myfyrwyr ymweld â'ch ysgol neu'ch coleg a chyfrannu at eich rhaglen addysg uwch drwy siarad â'ch myfyrwyr.
- Gweminarau
Gallwn gynnal ein sesiynau wyneb yn wyneb neu ar-lein. Gall ein holl wasanaethau gael eu trefnu i gyd-fynd ag amserlen eich ysgol neu'ch coleg neu gallwn gynnig digwyddiadau gyda'r hwyr ar gyfer rhieni ac maent i gyd yn rhad ac am ddim. Cwblhewch y ffurflen gais a bydd aelod o'n tîm recriwtio yn cysylltu â chi.
Cyngor ar Lunio Datganiad Personol
- Dewiswch bwnc eich gradd – gallwch chi astudio Anrhydedd Sengl (un pwnc) neu Gydanrhydedd (dau bwnc)
- Edrychwch ar gynnwys y cwrs a’r modiwlau er mwyn dewis y cwrs yr hoffech chi ei astudio www.swansea.ac.uk/undergraduate/courses/
- Ysgrifennwch eich datganiad personol gan bwysleisio eich diddordeb yn y cwrs e.e. themâu rydych chi’n eu hastudio ar hyn o bryd fel rhan o’ch astudiaethau presennol neu themâu/modiwlau rydyn ni’n eu cynnig
- Os oes gennych chi rôl yn yr ysgol/coleg e.e. Prif Ferch/Prif Fachgen, Capten ar dîm chwaraeon dylech chi gynnwys hyn ond gan ymhelaethu ar rinweddau’r rôl e.e. arweinyddiaeth, gwaith tîm a sgiliau trefnu
- Pwysleisiwch eich diddordebau personol sy’n ymwneud â’r cynllun gradd rydych chi’n dymuno ei astudio e.e. llyfrau rydych chi wedi’u darllen, ffilmiau neu raglenni teledu, materion cyfoes, cyfryngau cymdeithasol - blogiau
- Os ydych chi’n ymwybodol o’ch llwybr gyrfa dylech chi ysgrifennu am hyn a’i gysylltu â’r cynllun gradd rydych chi’n dymuno ei astudio – dylech chi gynnwys unrhyw brofiad gwaith a gwaith gwirfoddol rydych chi wedi’i gyflawni.
- Gofynnwch i berthynas neu ffrind ddarllen eich datganiad personol – mae adborth annibynnol bob amser yn ddefnyddiol!