Hanner Marathon Abertawe 2023
Roedd Prifysgol Abertawe yn falch o noddi’r hanner marathon eleni, lle gwnaeth 5000 o redwyr o bedwar ban byd gymryd rhan, gan gynnwys 100 o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr fel rhan o Dîm Abertawe! Rydym ni mor falch o'n rhedwyr, a gododd cyfanswm anhygoel o £18,000 ar gyfer ein hymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl a fydd yn ein helpu ni i barhau â'n hymchwil i iechyd meddwl plant a phobl ifanc, cefnogi lles ein myfyrwyr a chynnig hyb cymorth hanfodol i nyrsys dan hyfforddiant.
CAMAU BREISION DROS IECHYD MEDDWL
Diolch i bawb a wnaeth gefnogi ymgyrch Camau Breision Hanner Marathon Abertawe 2023!
Gallwch barhau i gefnogi'r ymgyrch wych hon drwy roi rhodd yma.
Rydym yn edrych ymlaen at eich diweddaru ar effaith eich cefnogaeth a'ch gweld chi yn 2024!
Mae pob taith yn dechrau gydag un cam.
P'un a ydych chi'n athletwr elît, yn rhedeg hanner marathon am y tro cyntaf neu'n rhedeg er mwyn pleser, mae Hanner Marathon Abertawe Prifysgol Abertawe yn berffaith i bawb, beth bynnag eich gallu. Beth am redeg a'n helpu i godi arian hollbwysig i'n hymgyrch - Prifysgol Abertawe'n Cymryd Camau Breision dros Iechyd Meddwl.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cymryd camau breision dros les gwell, ac yn credu na ddylai neb sy'n cael trafferth â'i iechyd meddwl ddioddef ar ei ben ei hun.
Ymunwch â ni nawr i gefnogi iechyd meddwl gwell i bawb, o atal hunanladdiad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, i weithlu mwy gwydn i'r GIG ac atgyfeiriadau ymarfer corff i fyfyrwyr dan bwysau.
Fel elusen gofrestredig, rydym yn cyfeirio llawer o'n rhoddion at ymchwil o safon fyd-eang a chymorth i fyfyrwyr. Drwy fuddsoddi yn y meysydd hyn, rydym yn gwneud darganfyddiadau arloesol ym maes iechyd a chynaliadwyedd wrth sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu rhagori yn y brifysgol, beth bynnag eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol.