PEIRIANNEG AWYROFOD
Mae Peirianneg Awyrofod yn ddisgyblaeth gyffrous sy'n ymdrin â dylunio, adeiladu, dadansoddi a phrofi peiriannau sy'n hedfan, megis awyrennau sy'n cael eu pweru gan bropelorau ac injan jet, hofrenyddion, gleidwyr a llongau gofod. Mae'n golygu defnyddio egwyddorion gwyddonol a pheirianyddol i ddeall sut mae pethau'n gweithio, sut i'w gwella, datrys problemau a datblygu technoleg newydd.
Os ydych yn berson chwilfrydig sydd bob amser yn awyddus i ddeall sut mae pethau'n gweithio ac sydd â diddordeb mewn dylunio, mathemateg, a defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i lansio pethau i'r awyr ac i'r gofod, yna mae Peirianneg Awyrofod yn ddelfrydol i chi.
Yma yn Abertawe, rydym yn canolbwyntio ar addysgu myfyrwyr sut i ddylunio cerbydau awyrofod, gan ddechrau o ddarn o bapur gwag. Rydym yn wahanol i'r rhai sy'n cystadlu â ni gan ein bod yn arwain y ffordd yn fyd-eang mewn Dulliau Cyfrifiadol a Pheirianneg, sy'n hanfodol yn y diwydiant Awyrofod, gan roi mantais i chi yn y byd gwaith sydd wedi cael ei phrofi gan ragolygon cyflogaeth ein graddedigion.