Rydym yn deall, fel rhiant, yr hoffech chi gefnogi eich plentyn yn ystod eu proses ymgeisio i'r Brifysgol. Mae hyn yn dechrau gyda'u cais i'r Brifysgol o'u dewis. Isod, cewch wybodaeth gam wrth gam o'r broses ymgeisio a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd nesaf.
Canllaw i Addysg Uwch ar gyfer Rhieni

Y Broses Ymgeisio
Canllaw Cam wrth Gam Gwneud Cais
Cam 1 - Gwanwyn/Haf - Ymchwilio'r Cwrs
Mae’n bwysig bod eich plentyn yn gwneud ei ymchwil ac yn dysgu mwy am yr hyn sydd gan y gwahanol brifysgolion i’w gynnig. Gan fod dewis mor eang o raglenni ar gael yn y DU, mae’n gallu bod yn dipyn o ben tost cyfyngu hyn i 5 dewis ar ei ffurflen UCAS.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am gyrsiau ar wefannau’r prifysgolion. Cliciwch yma i weld beth sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yn argymell defnyddio offeryn chwilio UCAS. Yma gallwch chwilio am yr holl brifysgolion sy’n addysgu’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi. Ewch i wefan UCAS.COM i wneud hyn.
Cam 2 - Haf/Hydref - Cynadleddau UCAS
Bob blwyddyn, mae prifysgolion yn mynd â stondinau arddangos i gynadleddau lleol UCAS. Yma bydd eich plentyn yn gallu siarad â chynrychiolwyr o nifer o brifysgolion a chasglu gwybodaeth ganddynt, gan gynnwys y prosbectws cyfredol. Weithiau, bydd ysgol eich plentyn yn trefnu taith ar gyfer yr holl blant sydd â diddordeb mewn mynd i’r brifysgol. Byddem yn annog eich plentyn i wneud ei ymchwil cyn mynd i un o’r digwyddiadau hyn, fel y bydd yn gwybod pa brifysgolion yr hoffai siarad â nhw.
Cam 3 - Haf/Hydref - Diwrnodau Agored
Gallwch helpu drwy annog eich plentyn i fynd i gynifer o ddiwrnodau agored â phosib cyn gwneud cais. Cynhelir diwrnodau agored naill ai ar y campws neu’n rhithwir. Mae’r ddau fath o ddiwrnod agored yn ffordd wych o gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gynnig, cwrdd â’r darlithwyr, gweld y llety, archwilio’r brifysgol a dod i adnabod yr ardal leol.
Yn Abertawe, rydym ni’n cynnal y ddau fath o ddiwrnod agored drwy gydol y flwyddyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chadw lle ar-lein yma.
Cam 4 - Medi/Ionawr - Gwneud Cais
Gellir cyflwyno cais i uchafswm o bum sefydliad ar-lein ar UCAS.com rhwng 1 Medi a diwedd mis Ionawr (mae’r dyddiad penodol yn amrywio bob blwyddyn, edrychwch ar wefan UCAS i gael rhagor o fanylion).
Dylai ysgol neu goleg eich plentyn gynnig cymorth gyda’r rhan fwyaf o’r broses ymgeisio. Ond, mae’n werth bwrw cipolwg yn rheolaidd ar yr adran o wefan UCAS ar gyfer rhieni, i gadw llygad ar y dyddiadau allweddol a sicrhau bod eich plentyn ar y trywydd iawn.
Cam 5 - Dyddiad Cau UCAS
Dylai’ch plentyn fod wedi cwblhau a chyflwyno ei ffurflen UCAS erbyn y dyddiad hwn, fel arfer dydd Mercher olaf mis Ionawr. Mae gan rai cyrsiau detholus iawn, megis Meddygaeth i Raddedigion, ddyddiadau cau sy’n gynharach o lawer, felly cofiwch wirio hyn yn y lle cyntaf.
Ym Mhrifysgol Abertawe, gallwch wneud cais am y mwyafrif llethol o’n rhaglenni ar ôl y dyddiad cau hwn.
Dylech ystyried hefyd fod gan lawer o ysgolion a cholegau eu dyddiadau cau mewnol eu hunain sy’n gynharach. Mae hyn er mwyn galluogi athrawon i ysgrifennu geirda UCAS ar gyfer eich plentyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser iddynt.
Gallwch ddarllen rhagor o fanylion am ddyddiadau cau ceisiadau UCAS ar eu gwefan yma: https://www.ucas.com/advisers/managing-applications/application-deadlines


Cam 6 – Ionawr/Mai - Derbyn Cynigion
Pan fydd eich plentyn wedi derbyn cynigion, neu benderfyniadau, gan bob sefydliad y cyflwynodd gais iddo, bydd angen iddo/iddi nodi dewis cyntaf (Cadarn) neu ail ddewis (Yswiriant) a gwrthod pob cynnig arall. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd prifysgolion yn gwahodd eich plentyn i Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr yn y sefydliad i’w helpu i benderfynu. Mae’r Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr hyn yn gyfle i’ch plentyn siarad â chynrychiolwyr y pwnc a dysgu mwy am y cwrs mae wedi gwneud cais amdano. Bydd rhai cyrsiau hefyd yn gofyn i’ch plentyn ddod i gyfweliad yn ystod y cyfnod hwn.
Dylai’ch plentyn nodi’r brifysgol sy’n apelio fwyaf fel dewis cadarn a’r dewis yswiriant fel dewis wrth gefn rhag ofn nad yw’n bodloni telerau ei gynnig.
Cam 7 – Chwefror/Mehefin - Gwneud Cais Am Gyllid Myfyriwr
O fis Chwefror ymlaen, gall eich plentyn ddechrau gwneud cais am gyllid myfyriwr. Fel rhiant, bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth ategol, er enghraifft prawf o incwm yr aelwyd.
Os yw’n byw yn Lloegr, bydd angen i’r myfyriwr wneud cais drwy Student Finance England.
Os yw’n byw yng Nghymru, bydd angen gwneud cais drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Cam 8 – Ionawr/Mehefin - Gwneud Cais Am Lety
Pan fydd eich plentyn wedi nodi ei ddewis cadarn neu yswiriant, ac wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr, bydd yn bryd dechrau rhoi popeth yn ei le ar gyfer mis Medi. Mae ceisiadau am lety yn agor ym mis Ionawr a dylech chi ymgeisio cyn gynted â phosib. Rydym yn gwarantu ystafell i’r holl fyfyrwyr sy’n cadarnhau eu bod yn derbyn eu cynigion gan Brifysgol Abertawe erbyn diwedd mis Mehefin. Dylai myfyrwyr dewis yswiriant hefyd wneud eu ceisiadau am lety mor gynnar â phosib er mwyn cynyddu eu cyfle i sicrhau lle yn un o breswylfeydd y Brifysgol.
Cam 9 – Awst - Canlyniadau Arholiadau
Os yw’ch plentyn yn bodloni telerau ei gynnig, fydd dim angen gwneud unrhyw beth arall. Byddwn yn ei dderbyn yn awtomatig drwy UCAS a chaiff cyfarwyddiadau cofrestru eu hanfon ar ddiwedd mis Awst.
Os yw eich plentyn yn methu bodloni telerau ei gynnig, peidiwch â phoeni. Mae gennym dîm o staff wrth law i drafod ei gais: rydym yn ymwybodol iawn bod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol ac rydym bob amser yn ceisio bod mor hyblyg â phosib.
Cam 10 – Diwedd mis Medi - Cofrestru
Mae myfyrwyr yn cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe tua diwedd mis Medi. Mae’r wythnos gyntaf ar y campws yn gyfle i fyfyrwyr ymgartrefu, cofrestru’n swyddogol ar eu cyrsiau a dewis eu modiwlau. Bydd y darlithoedd yn dechrau’r wythnos wedyn ac y gwaith caled!