Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Astudio
  4. Graddio
  5. Eich Diwrnod Graddio
  • Astudio
    • Clirio 2023
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Drws i ddyfodol disglair

      Darganfod mwy
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  • Clirio
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Astudio
  4. Graddio
  5. Eich Diwrnod Graddio

Eich Diwrnod Graddio

Tudalennau cysylltiedig
  • Dyddiadau Ceremoniaid Yn Y Dyfodol
  • Amserlen - Dosbarth 2023
  • Paratoi ar gyfer Graddio
  • Rhestr Wirio
  • Eich Diwrnod Graddio
  • Ar ôl Eich Graddio
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Sut i gysylltu â'r Swyddfa Raddio
  • Gwybodaeth ar gyfer Staff y Brifysgol
  • Dyfarniadau Anrhydeddus
  • Llyfrynnau Graddio

Beth sy'n digwydd ar y dydd

Amserau ar y Dydd

Amserau Graddio

9.30am

11.30am

2.15pm

4.15pm

Cofrestru

08.00 - 09.15

09.30 - 11.15

11.30 - 14.00

14.15 - 16.00

Drysau yn Agor

09.00

11.00

13.45

15.45

Ddarpar - raddedigion a Gwesteion i eistedd erbyn

09.15

11.15

14.00

16.00

Cynulliad (diwedd o gwmpas)

11.00

13.00

15.45

17.45

Dychwelyd Gŵn yn cau

19.30

19.30

19.30

19.30

Pryd i chi'n cyrraedd

Ar dydd eich Cynulliad Graddio cynghorir myfyrwyr sydd yn graddio i gyrraedd 1-1½ awr cyn eich cynulliad.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd Y Coleg i gofrestru ar gyfer eich cynulliad, a chasglu eich cerdyn cofrestru.  O'r fan honno, dylech gasglu eich gynau mewn da bryd ar gyfer eich cynulliad.  Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu 1-1½ awr cyn amser dechrau'ch cynulliad i wneud hyn.

Gallwch drefnu tynnu'ch lluniau naill ai cyn eich cynulliad neu ar ei ôl.  Mae'r stiwdios ffotograffiaeth yn Y Twyni.

Yna gallwch fynd i awditoriwm y Neuadd Fawr i eistedd ar gyfer eich cynulliad.  Mae'n rhaid i chi fod yn eistedd 15 munud cyn eich cynulliad i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn y cynulliad. Bydd y drysau i Awditoriwm y Neuadd Fawr yn agor tua 30 munud cyn y cynulliad.

Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion. Mae’n rhaid i’r darpar-raddedigion eistedd yn y sedd sydd wedi’i neilltuo iddynt; bydd rhif eich sedd wedi’i nodi’n glir ar eich cerdyn cofrestru.

Bydd Gwesteion yn cael mynediad i’r awditoriwm 30 munud cyn i’r cynulliad ddechrau. Bydd pob sedd i westeion heb ei neilltuo. Ni chaniateir mynediad i’r neuadd cyn yr amser hwn.

Bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn glir yn ystod yr holl ddigwyddiad a bydd tywyswyr wrth law i'ch cynorthwyo.  

Mae gennym leoliadau arlwyo ar gael ar Gampws y Bae i raddedigion a gwesteion: 

Coffeeopolis

Bydd ffans Starbucks™ yn dwlu ar Coffeopolis. Mae wedi’i leoli yn libart Adeilad Canolog Peirianneg, tuag ymyl dwyreiniol y campws ac mae Coffeopolis yn lle gwych i eistedd a mwynhau’r awyrgylch wrth yfed latte Starbucks neu wrth fwynhau panini a baratowyd yn ffres.

COSTA™ yn y Coleg

Dyma ein man arlwyo diweddaraf sydd wedi’i leoli yng nghefn y Coleg. Mae digonedd o seddi i fwynhau COSTA™ gyda ffrindiau neu wrth astudio. Mae danteithion a brechdanau hefyd ar gael.

Tafarn Tawe

Tafarn Undeb y Myfyrwyr ar Gampws y Bae sy’n gweini bwyd ffres drwy’r dydd, o frechdanau brecwast i fyrgyrs a salad!

Tesco Express 

Mae gan Gampws y Bae ei siop Tesco Express ei hun. Prynwch eich hoff fwydydd gan y brand mawr y gallwch chi ymddiried ynddo!

Yn y Cynulliad

Bydd darpar-raddedigion yn eistedd yn y sedd gyda'r un rhif sydd ar ei cerdyn cofrestru. Byddwch yn derbyn eich cerdyn cofrestru ar y dydd pan rydych yn cyrraedd a cofrestru.  

Dylai ddarpar-raddedigion adael eu heitemau personol gyda’u gwesteion cyn mynd i’w seddau yn y neuadd; dim ond y cerdyn cofrestru fydd ei angen ar y ddarpar-raddedigion.  Bydd cardiau cofrestru yn cynnwys rhif sedd ac enw'r darpar-raddedig a lle i ddarparu sillafiad enw ffonetig i helpu i ynganu enwau.

Bydd marsial yn dweud wrthych pryd i godi. Unwaith i chi godi byddwch yn cael eich ddangos ble i fynd i gyrraedd drws y llwyfan.

Pan fydd eich enw'n cael ei alw, byddwch yn trosglwyddo'ch cerdyn cofrestru i'r cyflwynydd cyn croesi'r llwyfan, gan dynnu eich cap i gyfarch y Canghellor neu'r Dirprwy Ganghellor ac yna’n parhau i ganol y llwyfan ac i lawr y grisiau i ddychwelyd i'ch sedd.

Ar ôl y Cynulliad

Yn dilyn pob cynulliad, gellir tynnu lluniau swyddogol yn Y Twyni os nad ydych wedi gwneud hynny cyn eich seremoni.

Gallwch wisgo eich gynau academaidd drwy gydol y dydd ond rhaid eu dychwelyd erbyn yr amser a nodir uchod. 

Os nad ydych yn gallu mynychu eich cynulliad o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl, a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosib.

Bydd myfyrwyr y mae eu henwau'n ymddangos yn llyfryn y cynulliad ac nid ydynt yn mynychu yn graddio yn eu habsenoldeb.  Sylwer na chaiff gohiriadau eu caniatáu fel arfer, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. 

Gwesteion

Bydd modd i chi gael mynediad i'r neuadd tua 30 munud cyn y cynulliad a RHAID eich bod yn eich seddi heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn y cynulliad.  Bydd rhywun wrth law i’ch tywys.

Mae'r cynulliad yn debygol o bara oddeutu 1 awr 15 munud ac mae'n bosib felly na fyddai'n addas i blant ifanc na babanod.

Os oes unrhyw broblemau symud neu anableddau gan eich gwesteion a wnewch chi roi gwybod i ni cyn diwrnod eich Cynulliad fel bod modd i ni gadw’r seddau priodol, Cysylltu â ni.

Yn dilyn y cynulliad, gofynnir i chi adael y neuadd er mwyn i’r staff fedru paratoi ar gyfer y gynulliad nesaf.  Efallai yr hoffech fynd i'r Twyni i gael ffotograffau swyddogol.

Eich Llyfryn Graddio

Gweld a lawrlwytho llyfrynnau graddio o'r gorffennol a'r presennol

Lluniau Swyddogol a USB

Lluniau Swyddogol

Bydd ffotograffydd swyddogol o Ede & Ravenscroft ar gael ar gyfer yr holl gynulliadau.

Mae'r cwmni yn cynnig sawl bwndel gwahanol o lluniau, yn cynnwys lluniau o'r holl deulu a lluniau unigol o'r myfyriwr.

Ewch i Ede & Ravenscroft am fwy of wybodaeth ar y bwndeli sydd ar gael a'r prisiau. 

Mae ffotograffiau yn gallu cael ei archebu o flaen llaw neu ar y dydd o'r adran gwerthu ffotograffiau, bydd arwyddion clir i'r adran yma ar y dydd. 

Llun a Ffon USB o'r Cynulliad

Bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu prynu ffotograff wedi’i argraffu o’u hamser ar y llwyfan gyda’r Canghellor neu’r Is-ganghellor ar ddiwrnod eu seremoni, ynghyd â gof bach (fformat HD) o’r seremoni gyfan.

CynnyrchPris

Ffotograff argraffydd 10" x 8"

(Eich foment gyda'r Canghellor/Is-Ganghellor ar y Llwyfan)

£15 print cyntaf

£10 am print ychwanegol (yr un myfyriwr yn unig)

Ffon USB

(Recordiad o'ch seremoni gyfan mewn HD a'r holl luniau)

£20

Lluniau gan e-bost

(E-bostiwyd eich holl luniau mewn ansawdd gwreiddiol)

£10 (e-bost yn unig)

Mae'r gost yn gostwng i £5 os byddwch hefyd yn prynu print

Gellir prynu'r rhain wyneb yn wyneb ar dy ddiwrnod graddio, neu drwy e-bostio gradsales@abertawe.ac.uk  neu ffonio 01792 987097. Sylwch y bydd angen talu â cherdyn yn unig. 

Os ydych wedi cyflwyno archeb ar gyfer llun ar y llwyfan neu USB ac ni allwch ddod i gasglu hyn eich hun, sylwer y bydd y ffioedd postio canlynol yn berthnasol (post yn y DU yn unig - caiff yr holl eitemau eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf):

Pecyn Graddio: £4

USB: £1

Hefyd rhoddir lluniau graddio ychwanegol ar albymau Flickr y Brifysgol

Diogelu Data

Dylai myfyrwyr, gwesteion a staff sy'n mynychu'r Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo fod yn ymwybodol bod y cynulliadau’n cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyhoeddus.

Cyhoeddir enwau a dyfarniadau (gan gynnwys y rheiny sy'n derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb) yn y rhaglen.

Mae recordiadau sain a delweddau o'r cynulliad ar gael yn gyhoeddus drwy we-ddarllediad byw, y cyfryngau cymdeithasol a gwerthu disgiau DVD o'r cynulliad.

Drwy gadarnhau y byddwch yn bresennol yn y seremoni, rydych chi'n rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe argraffu'ch enw a'ch dyfarniad yng nghyhoeddiadau'r rhaglen. Mae'r rheiny sy'n dod i'r cynulliad a'u gwesteion hefyd yn rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe ddefnyddio recordiad(au) fideo, recordiad(au) sain, ffotograff(au) ac unrhyw gynnwys/gopïau/dyfyniadau a gynhyrchir i'w defnyddio mewn cynyrchiadau lle mae Prifysgol Abertawe am ddefnyddio'r deunydd(iau) at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd, hyrwyddo masnach.

Yn unol â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data (2018), caiff y deunydd ei ddefnyddio'n unig at ddibenion hyrwyddo neu er lles Prifysgol Abertawe.

Gall deunyddiau barhau i fod yn gyhoeddus am gyfnod amhendant o amser a gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol a/neu farchnata. Efallai bydd angen eu golygu at ddibenion ansawdd neu dechnegol a chaiff eu storio'n ddiogel gan y Brifysgol neu ei hasiantiaid.

Bydd gan Brifysgol Abertawe hawlfraint ar y deunydd(iau) a gellir eu defnyddio fel y maent neu ar y cyd â deunydd(iau) eraill, fel rhan o gynhyrchiad cyfansawdd.

Nodyn i'r rhai hynny nad ydynt yn mynychu (yn derbyn eu dyfarniadau yn eu habsenoldeb): Os ydych yn gwrthod i'ch data personol cael ei gyhoeddi yn y rhaglen (enw a dyfarniad), rhowch wybod i'r Swyddfa Raddio.

Ystafell Ffrwd Fyw

Os yw’ch teulu a’ch ffrindiau am rannu’ch diwrnod arbennig ond does dim tocynnau ganddynt, gallant wylio’r seremoni’n fyw.  

Sylwer, os byddwch yn dod â gwesteion heb docyn, gallant wylio'r cynulliadau drwy ddarllediad byw yn ystafell GH043, sydd ar lawr gwaelod y Neuadd Fawr.

Darllediad Byw

Bydd ein holl seremonïau yn cael eu darlledu’n fyw ar ein gwefan yn http://www.swansea.ac.uk/graduation/ a bydd modd eu gwylio drwy’r rhyngrwyd.

Bydd y darllediad ffrydio byw’n ymddangos yn awtomatig ar ddechrau pob seremoni.  

Os hoffech brynu recordiad o’r sesiwn gyfan mewn fformat USB, gweler yr wybodaeth uchod (Ffotograffau a USB Swyddogol) 

Nwyddau Graddio

Bydd nwyddau graddio ar gael o Fulton Outfitters: www.fultonoutfitters.co.uk 

  • Dyddiadau Ceremoniaid Yn Y Dyfodol
  • Amserlen - Dosbarth 2023
  • Paratoi ar gyfer Graddio
  • Rhestr Wirio
  • Eich Diwrnod Graddio
  • Ar ôl Eich Graddio
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Sut i gysylltu â'r Swyddfa Raddio
  • Gwybodaeth ar gyfer Staff y Brifysgol
  • Dyfarniadau Anrhydeddus
  • Llyfrynnau Graddio
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342