Llongyfarchiadau!
Mae eich amser wedi dod! Ar ôl blynyddoedd o waith caled ac ymroddiad, mae’n bryd i chi ddathlu eich cyflawniadau. O baratoi ar gyfer y diwrnod mawr i ymuno â’n cymuned cyn-fyfyrwyr, mae popeth ar gael yma i wneud eich dathliadau graddio yn gofiadwy.
Rydyn ni’n cynnal dathliadau mawr eleni ac rydyn ni’n cynnal seremonïau wyneb yn wyneb ar gyfer dosbarthiadau 2020, 2021, a 2022 yn ystod y gwanwyn a’r haf eleni. Byddwn ni’n eich tywys chi bob cam o’r daith ac, os oes gennych chi gwestiynau, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch graddio neu cysylltwch â’r tîm graddio.