Dyddiadau Cau Ymgeisio

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno'ch cais i'n cyrsiau cyn gynted ag y gallwch chi, cyn ein dyddiadau cau ymgeisio. Os caiff yr holl leoedd sydd ar gael eu llenwi, mae cyrsiau'n cau'n llawer cynt na'r dyddiadau cau ymgeisio a restrir isod.

Mae gan ein cyrsiau ddyddiadau cau ymgeisio i roi amser rhwng derbyn cynnig a chofrestru i chi wneud y trefniadau angenrheidiol i gychwyn eich cwrs ar amser, neu mewn rhai achosion i ganiatáu amser ar gyfer y broses ddethol lle mae hyn yn cynnwys asesiad pellach yn ôl yr angen e.e., cyfweliadau.

Dyddiadau Cau mynediad yn Ionawr 2023

Mae ein dyddiadau cau safonol ar gyfer ceisiadau fel a ganlyn:

 CartrefRhyngwladol
Israddedig Ddim ar gael 31ain o Hydref 2022
Ôl-raddedig a addysgir 16eg Rhagfyr 2022 31ain o Hydref 2022

Dyddiadau Cau mynediad ym Medi 2022

Mae ein dyddiadau cau safonol ar gyfer ceisiadau fel a ganlyn:

 CartrefRhyngwladol
Israddedig 10fed o Hydref 2022 31ain Awst 2022
Ôl-raddedig a addysgir 23ain Medi 2022 31ain Gorffennaf 2022

Mae gan rai cyrsiau eu dyddiadau cau penodol eu hunain (gwiriwch yr eithriadau isod).

Eithriadau Dyddiad Cau Ymgeisio

Y Coleg, Prifysgol Abertawe - Os ydych yn gwneud cais i lwybr israddedig neu ôl-raddedig a ddarperir gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe, byddwch yn ymwybodol bod dyddiadau cau ymgeisio yn amrywio a gellir eu gweld ar dudalen we Dyddiadau Pwysig y Coleg, Prifysgol Abertawe.