Gweledigaeth Prifysgol Abertawe yw darparu'r profiad dysgu, addysgu ac asesu gorau i fyfyrwyr drwy ystod eang o ddulliau ac ymagweddau addysgeg. Un o brif alluogwyr hyn yw platfform dysgu ar-lein modern sy'n gwella ein cysylltiadau ar draws y Brifysgol. 

Cynigodd diwedd y cytundeb trwydded presennol â Blackboard y cyfle i gymryd camau a oedd yn seiliedig ar adborth gan staff a myfyrwyr ac a lywiodd y gofynion am lwyfan a fydd yn arwain at wireddu ein gweledigaeth.

Yn dilyn proses dendro gynhwysfawr, Canvas oedd y llwyfan a oedd yn bodloni gofynion a gweledigaeth y Brifysgol orau. Bydd y flwyddyn nesaf yn gweld y Brifysgol yn rhoi platfform Canvas ar waith ledled y sefydliad, gan gyflwyno nifer o fanteision i staff a myfyrwyr a chan wella'r profiad dysgu, addysgu ac asesu i bawb. 

Buddion Canvas

  
Mae’n mynd i’r afael ag adborth gan randdeiliaid ynghylch materion a oedd yn berthnasol i’r llwyfan blaenorol a gofynion y llwyfan newydd. Mae cymorth dros y ffôn, sgwrsio byw a chanllawiau drwy e-bost i bob defnyddiwr ddydd a nos, bob dydd o’r flwyddyn.
Mae’n cynnig hyblygrwydd drwy gynnig mynediad ar ddyfeisiau a llwyfannau amrywiol sy’n gwneud cyfleoedd dysgu symudol yn bosib. Mae’n ddiogel ac yn ddibynadwy, gyda chytundeb amser gweithredu hyd at 99.9%.
Mae ganddo lyfrgell cyfryngau wedi’i hintegreiddio gydag offer cydweithio ac asesu, gan gynnwys recordiadau camera a sgrîn.

Mae gan bob defnyddiwr fynediad at Gymuned Canvas, sy’n gymuned fywiog o dros hanner miliwn o ddefnyddwyr Canvas. Mae’n cynnig y cyfle i ddod o hyd i atebion, rhannu syniadau ac ymuno â grwpiau, gan gynnwys mynediad at adnoddau, tiwtorialau fideo a chanllawiau ysgrifenedig.

Mae’n llwyfan amlbwrpas sy’n integreiddio gydag atodion a rhaglenni trydydd partïon, e.e. ‘TurnItIn’. Mae cynnig model ‘meddalwedd fel gwasanaeth’, sy’n golygu y bydd gennym fynediad at yr holl ddiweddariadau yn y dyfodol a chynhyrchion newydd sy’n cael eu rhyddhau.
Mae’n cefnogi amrywiaeth o weithgareddau cydweithredol ar gyfer, er enghraifft, waith grŵp, trafod, aseiniadau ac adolygiadau gan gymheiriaid. Mae’n cynnig casgliad cynhwysfawr o offer sy’n grymuso myfyrwyr i ddatblygu sgiliau’r 21ain ganrif sy’n hanfodol ar gyfer canlyniadau llwyddiannus graddedigion.
Mae’n cynnig hygyrchedd gwell i fyfyrwyr a staff i ddiwallu anghenion amrywiol ein cymuned dysgu ac addysgu, e.e. darllenydd ymdrochol, gwirydd hygyrchedd, set sgiliau Alexa ac mae’n gydnaws â darllenwyr sgrîn.

Mae’n cynnig hyblygrwydd i’n cymuned amrywiol o fyfyrwyr a’u hanghenion dysgu, eu hamgylchiadau a’u dewisiadau.

Mae cynnig offer megis ‘MasteryPath’ sy’n gwneud teithiau dysgu personol yn bosib.

Mae ganddo nodweddion uwch a rhyngwyneb defnyddwyr sy’n ei gwneud hi’n hawdd llywio a rhannu cynnwys a gweithgareddau dysgu. Mae’n gwella ein hadborth a’n dulliau asesu gydag offer ac integreiddiadau mwy effeithiol.
Mae’n cynnig mwy o effeithiolrwydd i staff a myfyrwyr gyda llifau gwaith wedi’u symleiddio a nodweddion cyfathrebu effeithiol. Mae’n cefnogi nifer o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg, a gellir ei newid yn ôl defnyddiwr a chwrs.