Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth hyfforddiant Canvas i aelodau staff.

Hyfforddiant Hanfodion Canvas ar gyfer Staff

Rydyn ni wedi creu pecyn hyfforddiant Canvas Essentials er mwyn eich rhoi chi ar ben eich taith ddatblygu. Mae Canvas Essentials yn cynnwys pedwar cwrs, yn dibynnol ar eich rôl benodedig ar y platfform (Athro/Athrawes, Gweinyddwr Coleg) efallai na fydd angen i chi gwblhau pob cwrs. Gallwch chi gwblhau’r cyrsiau ar-lein fel astudio ar eich cyflymder eich hun neu gallwch chi fynychu sesiwn hyfforddiant sy’n cael ei chyflwyno ar-lein trwy Zoom ar hyn o bryd.
 
Mae'r gyfres 'Hanfodion Canvas' yn cynnwys pedair elfen wahanol:
 
  • Datblygu Cwrs
  • Asesu ac Adborth 1 – Aseiniadau a Graddio
  • Asesu ac Adborth 2 - Cwisiau
  • Cyfathrebu a Chydweithredu
 
Darllenwch ddisgrifwyr y cwrs isod er mwyn helpu i benderfynu eich llwybr.
 

Cyrsiau Quick Start Canvas

Os nad ydych chi wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Canvas hyd yma, rydyn ni’n cynnig sesiynau Cychwyn Cyflym ar gyfer y Cwrs Datblygu a modiwlau Asesu ac Adborth 1.

Mae’r sesiynau Cychwyn Carlam yn rhoi arweiniad bras ar sut i gychwyn ar system Canvas. Os nad ydych chi wedi mewngofrestru, wedi cael cyfle i roi trefn ar eich cyrsiau neu greu aseiniadau mae’r sesiynau sylfaenol, rhagarweiniol sy’n para am 30 munud trwy Zoom yn berffaith i chi. Gallwch chi gwblhau’r sesiynau hyn yn ôl y drefn neu gofrestru ar sesiynau sy’n gweddu i'ch anghenion.

I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys y sesiynau Dechrau Cyflym, gweler y cwymplenni Datblygu neu Asesu Cyrsiau ac Adborth 1 isod.
 
Gallwch gadw lle ar gyfer sesiynau hyfforddiant Zoom trwy Eventbrite hyd at 72 awr cyn amser dechrau’r cwrs. 
 

Os oes gennych chi ymholiadau ynghylch hyfforddiant, e-bostiwch salt@abertawe.ac.uk