Croeso i Canvas

Croeso i dudalennau gwe Prosiect Canvas Prifysgol Abertawe, lle gallwch ddysgu mwy am y prosiect i roi ein platfform dysgu digidol newydd ar waith - Canvas.

Mae Prifysgol Abertawe eisoes yn adnabyddus am ragoriaeth ei dysgu, ei haddysgu a'i hasesu, a'r nod yw y bydd cyflwyno platfform Canvas yn trawsnewid, yn gwella ac yn chwyldroi'r profiad i fyfyrwyr a staff.

Bydd Canvas yn hollol weithredol erbyn dechrau blwyddyn academaidd 20/21 ar ôl i Blackboard gael ei ddigomisiynu ar 31 Gorffennaf 2020, a sefydlwyd tîm prosiect i gynorthwyo'r Brifysgol drwy'r newid allweddol hwn.

Bydd amrywiaeth helaeth o weithgareddau'n cael eu cynnal rhwng nawr a'r dyddiad pan fydd Canvas yn weithredol i bawb. Mae hyn yn cynnwys ein Harloeswyr Canvas yn cyflwyno rhai modiwlau academaidd yn gynnar a rhaglen hyfforddiant a fydd ar gael i’r holl staff o fis Chwefror 2020. 

P'un a ydych yn aelod staff neu'n fyfyriwr, lluniwyd y tudalennau gwe hyn i'ch cynorthwyo ac i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newid i Canvas.

Neges gan y Dirprwy Is-ganghellor

Cymorth Canvas

I dderbyn cymorth ar gyfer platfform Canvas, ewch i’n tudalen Cymorth a Chefnogaeth Canvas. 

Amserlen Prosiect Canvas

Mae'r amserlen isod yn nodi dyddiadau a cherrig milltir allweddol Prosiect Canvas. Dyma'r fersiwn testun o Amserlen Prosiect Canvas.

Amserlen Prosiect Canvas