Myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr, dangoswch eich cefnogaeth i Gymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.
Ymunwch â'r gymuned fyd-eang sy'n cefnogi Cymru drwy ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol Prifysgol Abertawe a thagiwch ni yn eich negeseuon o gefnogaeth - Gorau Chwarae, Cyd Chwarae!
Mwynhewch y perfformiad arbennig hwn gan Gymdeithas Gorawl Prifysgol Abertawe, Côr Sioe Prifysgol Abertawe a Chôr Staff y Brifysgol o Yma o Hyd, yr anthem swyddogol ar gyfer ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd 2022. Ymunwch a dangoswch eich cefnogaeth! C'mon Cymru!
“Yma o Hyd”: Geiriau ac alaw Dafydd Iwan © Cyhoeddiadau Sain 1983
Gwyliwch y fideo isod gan frand Cymru Fyd-Eang 'Study in Wales' ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Mae'n rhannu profiadau myfyrwyr o dramor sy'n astudio yng Nghymru - cadwch lygad mas am rai o'n myfyrwyr rhyngwladol hyfryd ni o Brifysgol Abertawe!
Rydym yn cydweithio â phrifysgolion eraill Cymru ac Astudio yng Nghymru i hyrwyddo Cymru (ac Abertawe) fel cyrchfan astudio tra bod llygaid y byd ar Gymru ym maes pêl-droed.
Rydym hefyd yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru a byddwn yn rhyddhau cynnwys i’w cefnogi. Un o’r rhesymau dros wneud hyn yw arddangos amrywiaeth ein Prifysgol, gyda staff a myfyrwyr o bob rhan o’r byd yn cefnogi ein tîm.
Byddwn hefyd yn dathlu natur ryngwladol Cwpan y Byd drwy ddangos aelodau o’n cymuned yn cefnogi gwahanol dimau yn y gystadleuaeth.