Mae gan Brifysgol Abertawe ystod o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau a Diwylliant Cymreig tra eich bod yn astudio gyda ni. Efallai nad ydych chi'n hyderus yn siarad Cymraeg ac eisiau cyfle i ymarfer, neu eich bod yn siaradwr rhugl ac eisiau cwrdd ag eraill sy'n siarad eich iaith.
Mae croeso i siaradwyr rhugl a dysgwyr.
Y Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym)
Mae bod yn aelod o’r Gym Gym yn gyfle gwych i fyfyrwyr Cymraeg Abertawe i gymdeithasu a chwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill o fewn y Brifysgol. Bob blwyddyn, mae’r Gymdeithas yn cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau sydd yn amrywio o grôlau a nosweithiau cymdeithasol, nosweithiau cwis ac ambell drip. Y prif noson mae pawb yn disgwyl ymlaen ato yw'r crôl teulu ar ddechrau'r flwyddyn; mae'n gyfle gwych i ddod i adnabod aelodau newydd a phresennol Y Gym Gym. Yn flynyddol, trefnir trip yn ystod y Chwe Gwlad i Ddulyn neu i Gaeredin. Mae’r tripiau yn siawns dda i gymdeithasu a gwneud ffrindiau gydag aelodau Gym Gym’s eraill ar draws Cymru. Bob blwyddyn, mae'r Gym Gym yn mynychu Dawns Rhyngolegol a’r Eisteddfod Ryngol gan gystadlu yn erbyn Cymdeithasau Cymraeg eraill.
Dysgwch ragor am gymdeithasau Undeb Y Myfyrwyr yma neu ddarllenwch ragor am Y Gymdeithas Gymraeg yma.
Aelwyd yr Elyrch
Ysbrydolwyd ein myfyrwyr i greu aelwyd newydd yr Urdd eu hunain ac fe lansiwyd Aelwyd yr Elyrch ar ddiwrnod pen-blwydd yr Urdd yn 100 yn 2022. Mae Aelwyd yr Elyrch yn gyfle gwych sy’n addas i bobl 18-25 oed. Mae'r Aelwyd yn cynnig cyfleoedd i chi gystadlu yn yr Eisteddfod, gwirfoddoli yn y gymuned leol a bod yn rhan o weithgareddau ymarferol a llawer mwy. Mae'r Aelwyd yn cwrdd bob pythefnos mewn lleoliadau amrywiol ar gampysau'r Brifysgol.
Ystyr y gair Aelwyd yw cartref felly beth am ymuno a’n cartref newydd ni o fewn cymuned fawr yr Urdd? Mae'r Aelwyd yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gymdeithas Gymraeg, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb Myfyrwyr a Changen Abertawe.
Shwmae, Tom ydw i a fi yw Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr!
"Prif gyfrifoldebau fy swydd yw sicrhau bod gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, hawliau cyfartal, a hyrwyddo iaith, diwylliant a hanes Cymraeg a sicrhau dwyieithrwydd yn y Brifysgol.
"Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddaf yn sicrhau bod yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth at graidd popeth y mae’r Brifysgol yn ei wneud trwy gynnal amryw o ddathliadau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Byddaf yn cynnig cyfleodd i fyfyrwyr gyfranogi mewn gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr.
"Fy nod yw sicrhau bod pob myfyriwr, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, yn byw o fewn y Deyrnas Unedig neu dramor, yn cael profiad Cymraeg yn y Brifysgol."
E-bost: tom.kemp@swansea-union.co.uk