Sut y gallwn ni helpu:

Mae Cymuned@BywydCampws yma i helpu preswylwyr sy'n fyfyrwyr a phreswylwyr lleol. Ein nod yw hybu cydlyniad cymunedol a dealltwriaeth i fod yn ddulliau i'ch galluogi i oresgyn y rhan fwyaf o anghydfodau, tensiynau a gwrthdaro a dod o hyd i atebion iddynt. Mae'r dudalen hon yn cynnig arweiniad ar gyfer y materion mwyaf cyffredin sy'n codi ac mae'n eich cyfeirio at fannau eraill, ond mae pob croeso ichi gysylltu â ni am ragor o gymorth neu i roi gwybod inni am fater parhaus.

Rydym ni ar gael drwy'r cyfeiriad e-bost community.campuslife@abertawe.ac.uk neu ar gyfer ymweliadau â'r cartref os byddai'n well gennych drafod materion wyneb yn wyneb. Gobeithiwn y byddwch yn dal i edrych ar yr argymhellion isod er mwyn sicrhau eich bod yn ceisio cyngor neu gymorth gan y cysylltiadau cywir sydd â'r gallu i'ch helpu yn y ffordd fwyaf effeithiol gyda'ch cwestiynau neu'ch pryderon.

Cysylltwch â'n Tîm Cymunedol Cyfeillgar:

typing on a laptop keyboard

Mae Prifysgol Abertawe a'n partneriaid yn ymwybodol y gall rhai myfyrwyr sy'n byw yn y gymuned achosi ymddygiad heriol i'w cymdogion. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae trafodaeth am ymddygiad rhwng cymdogion yn ddigon i ddatrys y problemau hyn.  Lle mae problemau'n parhau, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu ymchwilio i'r broblem.

Os hoffech gysylltu â ni am unrhyw reswm, anfonwch e-bost at: community.campuslife@swansea.ac.uk

Digwyddiadau yn y cymuned

preparing for a local litter pick

Rydym yn cynnal digwyddiadau’n aml er budd y gymuned leol, fel casgliadau sbwriel ac ymgyrchoedd elusennol. Rydym wastad yn edrych ar ffyrdd y gallwn wella diogelwch, lles ac ansawdd bywyd yn y gymuned leol. Yma gallwch weld rhai gwirfoddolwyr yn paratoi ar gyfer casglu sbwriel yn Brynmill! Cadwch lygad ar ein wefan digwyddiadauar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw syniadau am sut y gallwn gydweithredu, neu os ydych am gymryd rhan yn unrhyw un o'n digwyddiadau, cysylltwch â ni!

Bod yn gymdogol:

Y ffordd fwyaf effeithiol o ddatrys y rhan fwyaf o faterion cymunedol yw adnabod eich cymdogion a chyfathrebu mewn modd deallgar a chymdogol.

Mae gan unrhyw un sy'n byw mewn tŷ, boed yn rhentu neu'n berchennog, yr hawl i fyw ynddo a mwynhau'r tŷ. Gallai'r mwynhad hwn gynnwys gweithgareddau sy'n amharu arnoch chi fel cymydog yn eich barn chi, ond nid yw hyn yn golygu bod eich cwynion yn gofyn ichi wneud mwy na thrafod y broblem yn anffurfiol. Drwy rannu rhifau ffôn, er enghraifft, gallwch agor dull cyfathrebu ar gyfer problemau, materion neu gwynion.

Rydym ni'n cynghori  cymdogion i siarad â'i gilydd ag empathi a cheisio meddwl am sut bydden nhw'n teimlo pe tasai'r rolau i'r gwrthwyneb, gan obeithio datrys problemau eu hunain pan fo'n bosibl. Fodd bynnag, os bydd hyn yn methu bydd y tîm ar gael i gyfryngu gwrthdaro a thensiynau rhwng cymdogion, os bydd angen.

Cyngor ar gyfer y materion cymunedol mwyaf cyffredin

Mae ein Grant Cymunedol ar gael i chi

Image shows water feature in Castle Gardens, Swansea City Centre

Os oes gennych syniad ynghylch sut i wella cymuned leol, gallech fod yn gymwys am ein Grant Cymunedol. Dewch o hyd i'r broses ymgeisio hawdd yma.

Gwirfoddolwch gyda Discovery

Image shows student with a 'here to help' sign

Gydag ystod o brosiectau pwysig, mae Discovery yn ffordd wych o roi'n ôl i'r gymuned. Ewch i'w gwefan er mwyn dysgu rhagor.