Cymuned@BywydCampws: Beth Rydym yn ei Wneud

Mae'r Tîm Cymuned yma i'ch helpu i deimlo'n ddiogel ac wedi'ch cysylltu â'ch cymuned leol, ac i'ch cefnogi gydag unrhyw broblemau allai fod gennych wrth fyw oddi ar y campws.

Ein nod yw hybu cydlyniad cymunedol rhwng ein myfyrwyr a phreswylwyr lleol drwy ein gwasanaethau. Gallai hyn fod drwy gefnogaeth megis cyflafareddu neu eich helpu i ymdrin â gweithdrefnau cwyno, neu ar nodyn mwy positif, drwy gynnal digwyddiadau yn y gymuned ar gyfer myfyrwyr a phreswylwyr.

Gallwch gysylltu â'ch Swyddog Cyswllt Cymunedol, Cerys, drwy e-bostio community.campuslife@abertawe.ac.uk.

Ei rôl yw cynrychioli myfyrwyr ac aelodau'r gymuned, yn ogystal â chysylltu â'n partneriaid yn y cyngor lleol, yr heddlu a'r sector llety preifat. Mae Cerys yn ymweld yn rheolaidd ag ardaloedd lle mae llawer o fyfyrwyr yn byw, megis Uplands, Brynmill a Thwyni Crymlyn, felly cofiwch fynd ati am sgwrs os byddwch yn ei gweld hi.

Cofiwch cadw at y Siarter Myfyrwyr, gallwch chi ddarganfod y siarter yma

Cliciwch fan hyn i ddarganfod mwy am yr ap SafeZone

Myfyrwyr yn cerdded trwy'r campws

Diogelwch Harddwch Campws y Bae:

Mae Bae Abertawe'n ardal hyfryd o draethau, môr ac awyr agored, sydd wedi bod yn hanfodol i fwynhad llawer o bobl o natur a chymdeithasu yn ystod eu hamser yn Abertawe. Os ydych yn cymdeithasu ar y traeth, rydym yn eich annog i lynu wrth ganllawiau presennol y llywodraeth sydd ar gael yma.

Mae'n bwysig hefyd eich bod yn rhoi eich sbwriel yn y biniau cyn gadael ac, os yw'r biniau'n llawn, ewch â'ch sbwriel adref. Drwy glirio ein sbwriel ar ein hôl, gallwn sicrhau bod y Bae'n parhau'n hafan natur hyfryd y gall myfyrwyr, aelodau'r gymuned, plant a chŵn i gyd ei mwynhau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i gadw'r traeth yn lân, rydym yn awgrymu dilyn mudiadau megis 2minutebeachclean a Don't Be a Tosser sy'n trefnu sesiynau casglu sbwriel ar raddfa fawr pan fydd eu hangen mwyaf. Gallwch hefyd wirfoddoli gyda Discovery ar sesiynau casglu sbwriel rheolaidd gyda'ch cyd-fyfyrwyr ac aelodau'r gymuned.

Canllawiau Craff i Osgoi Cwynion am Sŵn:

Yn aml mae gan fyfyrwyr ac aelodau'r gymuned ffyrdd o fyw gwahanol, gan gynnwys bod yn weithgar ar amserau gwahanol, sy'n golygu y gall sŵn darfu ar gymdogion. Fel tenantiaid neu berchnogion tŷ, mae gennych hawl i fwynhau'r eiddo fel y gwelwch orau ac nid yw materion megis cau drysau â chlec, defnyddio'r grisiau neu siarad yn cael eu hystyried fel cwynion.
              Fodd bynnag, gallwch gael ymweliad gan yr heddlu os bydd rhywun yn cwyno am sŵn anarferol o uchel megis gan seinyddion neu'r teledu. Fel rheol, os gallwch glywed eich cerddoriaeth neu'r teledu hyd yn oed o'r tu allan i'r tŷ, mae'n debygol eu bod yn rhy swnllyd. Dyma ychydig ganllawiau i leihau sŵn.

  • Peidiwch â gosod seinyddion neu'r teledu yn erbyn wal a rennir
  • Caewch y ffenestri i gadw'r sŵn i mewn
  • Wrth chwarae gemau ar eich dyfeisiau cadwch sŵn eich llais a sŵn y dyfeisiau i lawr, yn enwedig yn ystod yr oriau y gall rhai pobl eu hystyried yn oriau anghymdeithasol

Sut gallwn ni helpu:

Oes gennych syniad i wella eich cymuned leol?

Students taking part in a beach clean.

Mae ein cynllun Grantiau Cymunedol yn rhoi hyd at £250 i grŵp neu unigolyn sydd â syniad am sut i wella cymuned ddaearyddol er lles myfyrwyr ac aelodau'r gymuned. Gall hyn fod mor syml â chodi sbwriel neu brosiect harddu, neu ddigwyddiad cymunedol mwy. Mae rhagor o wybodaeth am ein proses ymgeisio syml a byr yma. Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd am gymorth a chyngor.

Rhoi yn ôl a gwirfoddoli gyda Discovery!

Students walking along Langland beach front.

Os ydych yn chwilio am gyfle i wirfoddoli unwaith neu'n awyddus i ymrwymo i wneud rhywbeth rheolaidd i ddatblygu eich sgiliau, rhowch gipolwg ar y 25 prosiect sydd ar waith gan Discovery, sy’n cynnal gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Eu nod yw cyfoethogi bywydau pobl ddifreintiedig ledled Abertawe ac maen nhw'n gweithio gydag aelodau'r gymuned a sefydliadau lleol gwahanol. Mae gwirfoddoli'n ffordd ardderchog o feithrin cysylltiad â chymuned ehangach Abertawe, boed drwy ddarllen i blant ysgol lleol neu helpu yn yr ardd gymunedol.