Croeso i Astudiaethau Americanaidd

Mae Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn ganolfan flaenllaw ar gyfer astudio diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, Unol Daleithiau America.

Mae Astudiaethau Americanaidd yn yr 2il safle yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Profiad Myfyrwyr, yn yr 2ail safle ar gyfer Ansawdd Addysgu, a'r 3ydd safle ar gyfer Rhagolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2022).

Yma yn Abertawe, mae ein myfyrwyr yn mwynhau amgylchedd cynnes, cyfeillgar a chroesawgar. Mae arweinwyr sy'n ymweld o'r Unol Daleithiau yn cyfrannu at ddarparu rhaglen addysgu gyffrous, sy'n ysgogi'n ddeallusol ac yn heriol, ac sy'n arwain at ystod o yrfaoedd.