YSGOLORIAETHAU MEISTR A ADDYSGIR
MEYSYDD PWNC AMRYWIOL: YSGOLORIAETH NODDFA PRIFYSGOL ABERTAWE 2023
Mae'r Ysgoloriaeth Noddfa 2023 bellach ar gau ar gyfer ceisiadau.
Dyddiad cau: 4pm ddydd Iau 30 Mehefin 2023.
Gwybodaeth Allweddol
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi'r Ysgoloriaeth Noddfa. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn addysg uwch i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU, a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn a’u huchelgeisiau.
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi un myfyriwr ar gwrs Meistr Ôl-raddedig a Addysgir bob blwyddyn academaidd. Mae'r Ysgoloriaeth yn cynnig un dyfarniad ar gyfer rhaglen meistr ôl-raddedig a addysgir gymwys sy'n dechrau ym mis Medi 2023, ac mae'n cynnwys:
- Bwrsariaeth ffïoedd dysgu lawn i dalu ffïoedd dysgu cwrs meistr ôl-raddedig a addysgir.
- Bydd arian ychwanegol ar gael tuag at gostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs, megis teithio i'r Brifysgol ac oddi yno, costau cynhaliaeth, cyfarpar digidol a llyfrau.*
(*Sylwer na fydd y taliad ar ffurf arian parod. Caiff y taliad ei wneud ar ffurf tocynnau bysus, cardiau arlwyo'r Brifysgol, offer, etc.)
Yn ogystal â'r cymorth ariannol a restrir uchod, bydd gan ddeiliad yr ysgoloriaeth noddfa fynediad at wasanaethau BywydCampws a gwasanaethau cymorth y Brifysgol drwy gydol ei astudiaethau, gan gynnwys cymorth llyfrgell.
Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol Abertawe ar sail y ffaith y gallant newid. Yn ogystal mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.