Mae fy nghyllid cynhaliaeth yn hwyr felly alla i ddim talu fy ffïoedd llety. Beth dylwn i ei wneud?
Os ydych chi wedi derbyn eich anfoneb ffioedd llety ac rydych chi wedi profi oedi o ran derbyn ariannu cynhaliaeth sy’n effeithio ar eich gallu i dalu eich ffioedd erbyn y dyddiad talu, cysylltwch ag Arian@BywydCampws drwy e-bost yn unig (money.campuslife@abertawe.ac.uk). Byddwn ni’n asesu eich sefyllfa er mwyn dilysu’r oedi. Bydd angen i chi roi esboniad o ran pam mae’r ariannu wedi’i oedi a thystiolaeth berthnasol megis sgrinlun o’ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr. Ar ôl i Arian@BywydCampws dderbyn tystiolaeth a’i dilysu bydd Gwasanaethau Preswyl yn ystyried caniatáu i’r dyddiad talu gael ei ymestyn.
Chi sy’n gyfrifol am cadw mewn cysylltiad cyson â’ch darparwr cyllid a rhoi’r holl wybodaeth y mae ei hangen arno er mwyn atal oedi pellach. Os bydd eich ariannu’n cael ei oedi tan ar ôl y dyddiad talu a ymestynnwyd, mae’n hollbwysig eich bod chi’n cysylltu ag Arian@BywydCampws i roi rhagor o wybodaeth a thystiolaeth iddynt cyn y dyddiad talu a ymestynnwyd.
Byddwch yn ymwybodol, Gwasanaethau Preswyl yn unig sy’n gallu caniatáu i ddyddiadau talu gael eu hymestyn, felly mae’n hanfodol eich bod chi’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r Tîm Gwasanaethau Preswyl yn ogystal ag Arian@BywydCampws.
Pryd bydda i'n derbyn fy Nghyllid Myfyriwr?
Ar ôl i'r broses gofrestru gael ei chwblhau, mae'r Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr yn anfon cadarnhad i'n Hadran Gyllid a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, a fydd yn peri i'r taliad cynhaliaeth cyntaf gael ei dalu i'ch cyfrif banc o fewn 3-5 niwrnod gwaith a'r ffi ddysgu i'r Brifysgol. Yn ogystal â chofrestru, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi anfon eich datganiad i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i'w alluogi i wneud y taliadau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gofrestru yma - https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/cofrestru/myfyrwyr-newydd/
Rwy’n astudio ar-lein o ganlyniad i bandemig Covid-19, a fydd hyn yn achosi goblygiadau o ran fy ariannu?
Os wyt ti'n fyfyriwr israddedig sy'n astudio ar-lein ac wyneb yn wyneb h.y. dysgu cyfunol, bydd swm yr arian cynhaliaeth y byddi di'n ei dderbyn yn dibynnu ar le rwyt ti’n byw - yng nghartref dy rieni neu'n rhywle arall. Gweler ein tudalen we Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr Israddedig am ragor o wybodaeth.
Dydw i ddim wedi derbyn fy menthyciad eto ac mae anawsterau ariannol gennyf, beth gallaf ei wneud?
Os teimlwch nad ydych chi'n gallu ymdopi'n ariannol oherwydd amgylchiadau annisgwyl, gallwch wneud cais am ddyfarniad gan Gronfa Caledi Prifysgol Abertawe neu am Grant Cymorth Ariannol Tymor Byr. Nid ffynhonnell cyllid yw hyn ac ni chewch ei ddefnyddio i dalu ffioedd dysgu. Does dim sicrwydd y byddwch yn derbyn dyfarniad ond os yw'ch cais yn llwyddiannus, ni fydd rhaid i chi ei ad-dalu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gronfeydd caledi Prifysgol Abertawe yma - https://www.swansea.ac.uk/cy/arian-bywydcampws/cronfeydd-caledi/
Rwyf wedi gorfod gohirio/ailadrodd/trosglwyddo o’r blaen oherwydd rhesymau personol a does dim digon o Gyllid Myfyrwyr ar gael i mi barhau â’m hastudiaethau. Oes unrhyw beth galla i ei wneud?
Os ydych chi wedi gorfod gohirio/ailadrodd/trosglwyddo o’r blaen ac mae rhesymau anorchfygol am wneud hynny, gallech chi dderbyn cyllid ychwanegol am flwyddyn ar ddisgresiwn Cyllid Myfyrwyr.
Byddai’n rhaid i chi gyflwyno achos Rhesymau Anorchfygol Personol (CPR) i Gyllid Myfyrwyr. Darllenwch ein Canllaw CPR i gael canllawiau cynhwysfawr ar Resymau Anorchfygol Personol a sut i gyflwyno achos.
Nid yw fy nghyllid myfyriwr wedi cael ei gadarnhau, a fydd modd i mi gofrestru?
Bydd, gallwch gofrestru ar-lein yma - https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/cofrestru/myfyrwyr-newydd/ Os nad yw eich cyllid wedi'i gadarnhau eto, gallwch gwblhau mandad debyd uniongyrchol a bydd hyn yn caniatáu i chi gofrestru. Cofiwch: rhaid i chi fod yn sicr y bydd eich cyllid yn cael ei gadarnhau ac y bydd ar gael i chi. Os byddwch yn cofrestru ac nid ydych yn derbyn eich cyllid, byddwn yn codi cyfran o'ch ffioedd dysgu, hyd yn oed os na fyddwch yn gallu parhau i astudio. Ar ben hyn, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ystyried eich bod wedi defnyddio blwyddyn lawn o'ch hawl i gyllid myfyriwr, hyd yn oed os nad ydych yn cwblhau'r flwyddyn nac yn derbyn eich cyllid llawn.
Os bydda i'n cofrestru ar gwrs ac yna'n dewis tynnu'n ôl ychydig ddiwrnodau neu ychydig wythnosau wedyn, beth fydd yn digwydd i'm cyllid?
Os byddwch yn tynnu'n ôl yn gynnar o'ch rhaglen (neu'n gohirio eich astudiaethau) cyn diwedd y pythefnos cyntaf ar ôl eich dyddiad dechrau, caiff eich ffioedd dysgu eu canslo'n llawn (e.e. erbyn 1 Hydref ar gyfer myfyrwyr 21/22 sy'n dechrau ar Medi 2021).
Os byddwch yn gadael ar ôl y pythefnos cyntaf ac rydych chi wedi mynychu’r Brifysgol, hyd yn oed am ychydig wythnosau o astudio yn unig, bydd Cyllid Myfyrwyr yn ystyried bod hyn gyfwerth â blwyddyn gyfan o astudio.
Os ydych wedi derbyn benthyciad cynhaliaeth, mae'n bosib y byddwch wedi derbyn mwy na'r cyfanswm mae gennych hawl iddo. Tybir bod hyn yn ordaliad a byddai angen i chi ei ad-dalu i Gyllid Myfyrwyr.
Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am dynnu'n ôl neu ohirio eich astudiaethau - https://myuni.swansea.ac.uk/cy/cyllid/arian-bywydcampws/israddedig-tynnun-ol--gohirio/
Dydw i ddim yn hoffi fy nghwrs a hoffwn i ei newid, a fydd hyn yn effeithio ar fy sefyllfa ariannol?
Mae eich gallu i newid cwrs yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys hyd a pharhad y cwrs newydd rydych chi'n gobeithio symud iddo a faint o gyllid myfyriwr cyffredinol mae gennych hawl iddo sy'n weddill. Er enghraifft, os yw'r cwrs rydych yn newid iddo'n fyrrach na'r cwrs rydych chi wedi cofrestru arno ar hyn o bryd, a/neu rydych chi wedi derbyn cyllid myfyriwr o'r blaen, mae'n bosib y byddai goblygiadau o ran cyllid i chi pe byddech yn newid cwrs. Os ydych yn ansicr ynghylch newid cwrs a'r goblygiadau ariannol sydd ynghlwm wrth hynny, y peth gorau y gallwch ei wneud yw cysylltu â ni am gyngor a chymorth drwy e-bostio money.campuslife@swansea.ac.uk cyn gynted â phosib.
Mae fy nghwrs wedi newid o'r un sydd ar fy nghais am Gyllid Myfyriwr (drwy glirio), sut bydd hyn yn effeithio ar fy nghyllid myfyriwr?
Ni fyddai hyn yn effeithio ar eich cyllid er y byddai angen i chi ddiweddaru eich cais ar-lein gyda'ch Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Y ffordd gyflymaf o wneud hyn yw drwy eich cyfrif Cyllid Myfyriwr ar-lein. Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am Gyllid Myfyriwr ar gyfer Clirio - https://www.swansea.ac.uk/cy/clirio/cyllid-i-fyfyrwyr-clirio/
Rwy’n Fyfyriwr Ôl-raddedig ac mae fy nghwrs yn dechrau ym mis Ionawr, pryd bydd angen i mi dalu fy ffioedd dysgu?
Ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig y mae eu cyrsiau’n dechrau ym mis Ionawr bydd eu cyrsiau’n rhedeg o fis Ionawr i fis Ionawr a bydd gennych chi amserlen daliadau ddiwygiedig. Gallwch chi ddod o hyd i’r manylion llawn ar ein gwefan trwy ddilyn y ddolen hon – https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/cyllid/talu-ffioedd-dysgu-a-gwybodaeth-arall/dalu-ffioedd-ôl-raddedig/
Rwy’n fyfyriwr ac mae angen swydd ran-amser arnaf er mwyn helpu i reoli fy arian, pa gymorth sydd ar gael?
Mae cymorth Cyflogaeth ar gael trwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA). I ddysgu mwy am y cymorth y gallant ei gynnig i chi o ran dod o hyd i swydd ran-amser, ewch i’w tudalen we – https://myuni.swansea.ac.uk/cy/gyrfaoedd/
Fel myfyriwr, fydda i’n derbyn gostyngiad ar Dreth y Cyngor?
Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn (yn astudio am dros 21 awr yr wythnos a thros 24 o wythnosau'r flwyddyn) ac rydych chi'n byw ar eich pen eich hun neu mewn eiddo rydych chi'n ei rannu â myfyrwyr amser llawn, dylech chi gael eich eithrio rhag talu treth y cyngor. Mae'n bosib y bydd angen Tystysgrif Treth y Cyngor arnoch chi i'w chyflwyno i'r awdurdod lleol a gallwch gael un drwy e-bostio myunihub@abertawe.ac.uk. Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth - https://myuni.swansea.ac.uk/cy/myunihub/eithriad-treth-y-cyngor/
Os ydych chi'n fyfyriwr rhan-amser, neu'n byw gyda rhywun nad yw'n fyfyriwr, mae'n bosib y bydd gennych hawl i ostyngiad 25% yn eich taliad Treth y Cyngor. Cysylltwch â MyUniHub i gael eich tystysgrif ac yna cysylltwch â'ch cyngor lleol i wneud cais am y gostyngiad.
Myfyriwr Nyrsio ydw i, pryd gallaf ddisgwyl derbyn fy mwrsariaeth?
Fel arfer, byddwch yn derbyn rhandaliad cyntaf eich bwrsariaeth ar ddiwedd mis Hydref (sef, ail fis eich cwrs) a dylech dderbyn rhandaliadau misol wedi hynny, ar ddiwrnod gweithio olaf pob mis.
Taflen y GIG
Hefyd, fel myfyriwr nyrsio sy'n elwa o gynllun bwrsariaethau'r GIG, gallwch wneud cais hefyd am fenthyciad cynhaliaeth is drwy gyllid myfyrwyr. Ewch i dudalennau we Cyllid Myfyrwyr am ragor o wybodaeth - Cwrs a ariannir gan y GIG
Dwi'n cael trafferth ymdopi oherwydd y newidiadau diweddar yn fy mywyd a dod i'r Brifysgol. Oes rhywle gallaf fynd am gymorth?
Gall dechrau'r Brifysgol fod yn gyfnod llawn gofid ac mae'n bosib eich bod yn teimlo pob math o emosiynau. Mae gan y gwasanaeth BywydCampws dîm ymroddedig o staff llesiant sy'n cynnig pob math o gymorth gwahanol i fyfyrwyr. I weld pa gymorth sydd ar gael, edrychwch ar eu tudalen we - https://www.swansea.ac.uk/cy/llesiant/
Myfyrwyr sy'n Dychwelyd
Myfyriwr sy’n dychwelyd ydw i, pryd bydd fy Nghyllid Myfyriwr yn cael ei dalu?
Er eich bod yn fyfyriwr sy'n dychwelyd, mae'n rhaid i chi gyflwyno cais am Gyllid Myfyrwyr bob blwyddyn. Rhaid i chi gofio hefyd nad ydych yn sicr o'i dderbyn am y flwyddyn ganlynol er eich bod wedi'i derbyn o'r blaen. Er enghraifft, os ydych chi wedi cwblhau blynyddoedd o astudio blaenorol neu os bu rhaid i chi ail-wneud blwyddyn astudio, gallai hyn effeithio ar eich hawl gyffredinol i gyllid. Felly, gwnewch yn siŵr bod eich darparwr cyllid myfyrwyr wedi cadarnhau eich cyllid cyn i chi gofrestru, neu mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu cyfran o'ch ffioedd.
Mae fy Mlwyddyn mewn Diwydiant wedi newid i'm blwyddyn olaf oherwydd COVID-19. Sut mae hyn yn effeithio ar fy Nghyllid Myfyriwr?
Bydd angen i chi gysylltu â'ch corff ariannu cyn gynted â phosib i roi gwybod iddynt bod eich Blwyddyn mewn Diwydiant wedi newid. Mae hyn yn hynod bwysig er mwyn sicrhau bod gennych y cyllid cywir ar gyfer y flwyddyn gywir oherwydd bod cyfraddau a ffioedd cyllid y Flwyddyn mewn Diwydiant yn wahanol i rai astudio mewn blwyddyn academaidd arferol.
Mae gennyf gyfnod o astudio blaenorol. Fydda i'n derbyn cyllid llawn ar gyfer fy nghwrs newydd?
Mae gan bob myfyriwr hawl i gyllid ffioedd dysgu a chynhaliaeth am hyd cyfan ei gwrs, ynghyd ag un flwyddyn ychwanegol. Felly, byddai'r ateb yn dibynnu ar sawl flwyddyn o astudio blaenorol rydych wedi’i chwblhau. Os mai un flwyddyn yn unig sydd gennych, byddai'r flwyddyn honno'n cael ei hystyried fel eich blwyddyn ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr a dylech chi dderbyn cyllid i dalu am eich cwrs newydd, ar yr amod nad ydych yn gohirio, yn ail-wneud cyfnod neu’n newid cwrs eto. Os ydych chi wedi cwblhau mwy nag un flwyddyn o astudio blaenorol, ni fydd gennych hawl i gyllid digonol i dalu am hyd cyfan eich cwrs a bydd angen i chi dalu eich ffioedd dysgu a'ch costau cynhaliaeth eich hun. Ewch i'n tudalen we i gael rhagor o wybodaeth am hawl i gyllid a newid eich astudiaethau - https://myuni.swansea.ac.uk/cy/cyllid/arian-bywydcampws/israddedig-ail-wneud—trosglwyddo/
• Fel arfer, gall myfyrwyr dim ond cael cyllid myfyrwyr ar gyfer eu cymhwyster addysg uwch cyntaf. Os ydynt eisoes wedi cwblhau cwrs addysg uwch yn y DU, efallai na fyddant yn derbyn cymorth am ail gwrs.
 phwy dylwn i gysylltu os oes gennyf broblem talu fy ffioedd?
Byddai rhaid i chi siarad â'r Adran Gyllid os oes gennych broblemau talu eich ffioedd a dylech chi siarad â nhw cyn gynted ag y bydd gennych bryderon. Gallwch gysylltu â'r Adran Gyllid drwy e-bostio income@swansea.ac.uk
Sut dylwn i dalu fy ffioedd?
Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig sy'n derbyn Cyllid Myfyriwr neu Fwrsariaeth y GIG, bydd y corff ariannu'n talu eich ffioedd yn uniongyrchol i'r Brifysgol. Os ydych chi'n talu eich ffioedd eich hun, yn fyfyriwr ôl-raddedig neu ryngwladol, chi fydd yn gyfrifol am drefnu i'ch ffioedd gael eu talu a gallwch gael rhagor o wybodaeth am symiau a dyddiadau'r taliadau ar ein tudalen we - https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/cyllid/talu-ffioedd-dysgu-a-gwybodaeth-arall/
Astudio o Bell
Rwy'n astudio o bell, a fydd hyn yn effeithio ar fy nghyllid?
Os wyt ti'n fyfyriwr israddedig sy'n astudio ar-lein ac wyneb yn wyneb h.y. dysgu cyfunol, bydd swm yr arian cynhaliaeth y byddi di'n ei dderbyn yn dibynnu ar le rwyt ti’n byw - yng nghartref dy rieni neu'n rhywle arall. Gweler ein tudalen we Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr Israddedig am ragor o wybodaeth.
Rwy'n astudio o bell ar hyn o bryd, ydy hyn yn golygu y bydd cyfanswm fy ffioedd dysgu'n newid?
Gallwch weld rhestr lawn o'n holl ffioedd israddedig ar ein tudalen we drwy ddilyn y ddolen ganlynol - https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/ffioedd-a-chyllid/ffioedd-dysgu/ a gallwch weld y ffioedd ôl-raddedig yma - https://www.swansea.ac.uk/postgraduate/fees-and-funding/postgraduate-tuition-fees/
Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i godi £9,000 am ffioedd dysgu myfyrwyr israddedig 'Cartref' am flwyddyn academaidd 2021/22 waeth a yw'r myfyriwr yn dewis astudio o bell ai peidio.
Methu dod o hyd i ateb i’ch ymholiad? Cysylltwch â ni.
Os na allwch chi ddod o hyd i ateb i’ch ymholiad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â ni.