Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!
Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon
Cyn gwneud cais am ysgoloriaeth, sicrhewch eich bod wedi darllen amodau a thelerau’r Ysgoloriaeth hon a’ch bod yn astudio o leiaf 5 credyd o fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg. Sicrhewch eich bod yn ateb pob adran yn fanwl ac yn gywir a theipiwch eich datganiad, os gwelwch yn dda. Ni chaiff unrhyw geisiadau hwyr eu hystyried. Cedwir yr holl wybodaeth isod yn gyfrinachol, ni chaiff ei drosglwyddo y tu allan i’r adran.
Seilir dyfarniadau’r bwrsariaethau ar allu a theilyngdod academaidd ond hefyd ar eich gweithgarwch ynghlwm wrth y Gymraeg o fewn cyd-destun addysgol neu gymdeithasol. Byddai’n dda deall hefyd beth yw eich bwriadau i’r dyfodol wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Os ydych eisoes wedi derbyn ysgoloriaeth gan yr Academi mewn blwyddyn flaenorol, gallwch esbonio sut y defnyddioch yr ysgoloriaeth honno.
Lluniwch ddatganiad isod (dim yn hwy na 500 gair) yn esbonio eich rhesymau dros wneud cais, a pham yn eich barn chi, y dylech dderbyn ysgoloriaeth.
Drwy gyflwyno eich ymholiad, bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio i greu cofnod o fewn ein system ymholiadau. Darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd Ymgeiswyr sy’n rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y byddwn yn prosesu eich data personol.