Cydnabod dy gyfraniad i fywyd Cymraeg a Chymreig Prifysgol Abertawe
Mae Gwobr Academi Hywel Teifi wedi’i chreu er mwyn gwobrwyo myfyrwyr sy'n cyfrannu at fywyd a gweithgareddau diwylliannol ac academaidd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r wobr yn cydnabod rôl, cyfraniad a llwyddiannau sy’n ymwneud â chefnogi, hyrwyddo a dathlu’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig.
Gall hyn olygu gweithio fel Llysgennad Myfyrwyr neu Gynrychiolydd Pwnc gyda phwyslais ar hyrwyddo’r ddarpariaeth Gymraeg yn ystod Diwrnodau Agored, Teithiau Campws, Ymweliadau ag Ysgolion, Digwyddiadau Adrannol neu mewn Eisteddfodau, neu gynrychioli a gweithredu ar un o bwyllgorau swyddogol y Brifysgol neu’r GymGym.
Dyfernir yr achrediad yn ôl-weithredol ar ddiwedd y Flwyddyn Academaidd yn dibynnu ar y tasgau a gwblhawyd. Gall y profiadau a enillwyd gyfrannu tuag at Wobrau eraill â ddyrennir gan y Brifysgol, e.e. Gwobr Llysgenhadon Myfyrwyr, Gwobr Gyflogadwyedd SEA.
Bydd y Wobr yn cael ei chofnodi ar y dystysgrif gradd. Didolir gwobrau Academi Hywel Teifi i dri dosbarth: Efydd, Arian ac Aur.
Cyflwynir gwobrau Efydd ac Arian i wirfoddolwyr yn bennaf, tra bydd y rhai sy’n deilwng o wobr Aur yn gallu profi iddynt ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb, gwneud ymdrech eithriadol neu arddangos rhagoriaeth yng nghyd-destun y meysydd penodol.
Am fanylion pellach, neu i gofnodi diddordeb yn y Gwobr, e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk