Cyflogadwyedd
Un o brif amcanion y Brifysgol yw paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae ein cyrsiau academaidd yn anelu at dy arfogi â’r profiad gwerthfawr a sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Lle bynnag y bo’n bosibl, mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r yn y sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at dy addysg. Rydym yn gwrando ar gyflogwyr pan fyddant yn dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau y maent yn ei gwneud yn ofynnol gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra’n cyrsiau i sicrhau dy fod yn ennill sgiliau proffesiynol a lefel uchel sy’n dy alluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni.
Gwobr Academi Hywel Teifi
Mae Gwobr Academi Hywel Teifi wedi’i greu er mwyn gwobrwyo myfyrwyr sy'n cyfrannu at fywyd a gweithgareddau diwylliannol ac academaidd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r wobr yn cydnabod rôl, cyfraniad a llwyddiannau sy’n ymwneud â chefnogi, hyrwyddo a dathlu’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Am fanylion, ewch i dudalen Gwobr Academi Hywel Teifi.
Cyfloedd profiad gwaith i ddatblygu sgiliau trwy Academi Hywel Teifi
Mae gradd yn bwysig er mwyn sicrhau swydd dda, ond mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Bydd sicrhau profiad gwaith a datblygu sgiliau wrth astudio ac yn ystod y gwyliau yn eich gwneud yn fwy abl i gystadlu am swyddi. Mae Academi Hywel Teifi wedi datblygu modiwl cyfrwng Cymraeg newydd sydd yn agored i bob myfyriwr Lefel 2 beth bynnag yw eich cwrs gradd. Mae’r modiwl yma yn rhoi cyfle i chi fanteisio ar leoliad profiad gwaith cyfrwng Cymraeg mewn maes priodol i’ch gradd gan ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol.
Modiwl Profiad Gwaith Academi Hywel Teifi
(20 credyd. Mae’r modiwl hwn ar gael yn ystod Semester 2)
Rydym yn cynnig modiwl profiad gwaith (Côd y Modiwl: AHT200). Ar y modiwl hwn byddwch yn treulio cyfnod o 10 diwrnod ar brofiad gwaith gyda sefydliad, elusen, busnes neu sefydliad llywodraethol yng Nghymru. Byddwch yn mynychu’r lleoliad un diwrnod yr wythnos drwy gydol y tymor er mwyn datblygu sgiliau cyflogadwyedd a dealltwriaeth gynhwysfawr o fyd gwaith. Yn ogystal, bydd darlithoedd a seminarau fydd yn meithrin eich sgiliau cyflogadwyedd ac yn eich galluogi i wneud y mwyaf o’ch cyfnod profiad gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer ymgeisio am swyddi. Am fwy o wybodaeth, gallwch ebostio Non Vaughan Williams
Tystysgrif Sgiliau Iaith, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dyma gyfle i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith sy’n dangos i gyflogwyr eich bod yn hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig fydd o fantais wrth ymgeisio am swyddi. Bydd y Coleg yn trefnu sesiynau trwy Academi Hywel Teifi er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i baratoi ar gyfer y Dystysgrif ac mae adnoddau ychwanegol ar-lein. I ennill y Dystysgrif mae angen gwneud cyflwyniad llafar a chwblhau prawf ysgrifenedig sy'n cynnwys tair tasg. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Lois Wyn Griffiths, Swyddog Cangen Prifysgol Abertawe.
Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) yn darparu rhwydwaith i gysylltu myfyrwyr â chyflogwyr - yn amrywio o weithdai a sgyrsiau gan gyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad myfyrwyr. Mae'r Academi'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam o'u taith tuag at yrfa raddedig - o gydlynu cyngor proffesiynol ar yrfaoedd, rheoli ystod o gynlluniau lleoliadau gwaith a sicrhau cefnogaeth un i un ac ar-lein i ddarparu arweiniad ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch gyrfa a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
Gall ein Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd o fri dy helpu i:
- archwilio syniadau gyrfa
- llunio CV trawiadol ac effeithiol
- gael lleoliad gwaith
- ddod o hyd i swydd neu i ddysgu mwy am addysg bellach
Cyfleoedd rhyngwladol
Rydym ni’n gallu cynnig profiadau rhyngwladol unigryw a lleoliadau gwaith heb eu hail gan fod cysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i Brifysgol Abertawe. Mae nifer o ddarlithwyr ein cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn arbenigwyr byd-eang yn eu meysydd.
Mae rhaglenni astudio dramor yn rhoi’r cyfle i chi ennill sgiliau rhyngbersonol a throsglwyddadwy gwerthfawr fel trefnu a chynllunio, cydweithredu, datrys problemau a chyfathrebu. Mae cyflogwyr yn cydnabod pwysigrwydd, ac yn disgwyl, dealltwriaeth o faterion rhyngwladol neu o ddiwylliannau eraill yn eu graddedigion. O ganlyniad, mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi astudio fel rhan o’ch gradd neu i fanteisio ar un o’n rhaglenni haf. Mae gennym gysylltiadau ar gyfer cyfleoedd i weithio dramor, i wirfoddoli dramor neu i astudio dramor gyda 150 o brifysgolion a sefydliadau partner. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyfleoedd Byd-eang.