Bywyd Teuluol
Fe’i ganed yn Llanddewi Aber-arth, pentref ar arfordir Ceredigion, yn 1934 ac yn ei ieuenctid fe fu’n bêl-droediwr brwd – a’i angerdd at gêm y bêl gron, a’i hoff dîm Arsenal, yn parhau drwy ei fywyd. Ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, bu’n dysgu yn Ysgol Ramadeg Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, cyn cael ei benodi’n ddarlithydd allgyrsiol i Brifysgol Abertawe. Ym Mlaengarw y cyfarfu ag Aerona Protheroe, ddaeth yn wraig iddo ac yn fam i'w mab Huw (y darlledwr teledu) a'u merch Meinir. Symudodd y teulu ym 1966 i bentref Llangennech, rhwng Llanelli ac Abertawe, lle y cyfranodd yn helaeth i’w gymuned gan sefydlu cymdeithas lenyddol yn y pentref,gan wasanaethu fel llywodraethwr ysgol a blaenor yn y capel Presbyteraidd lleol, ac fel cynghorydd dros Blaid Cymru ar Gyngor Sir Dyfed. Bu farw ar y 4ydd o Ionawr 2010 ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanddewi Aber-arth, ei bentref genedigol.
Cyhoeddiadau
Yn ddehonglydd heb ei ail ar fywyd a diwylliant Cymru oes Victoria, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Eisteddfod 1176–1976 (Gomer 1976) ac ystyrir Gwyl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858–1868 (Gomer 1980) fel ei magnum opus.
Dilynodd cyfrolau pellach ar hanes a llenyddiaeth Cymru: Codi'r hen wlad yn ei hôl, 1850–1914 (Gomer 1989) ac Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago, 1893, (Gomer 1990). Yn ysgolhaig a oedd â gwreiddiau dwfn yng nghymoedd y de, roedd ganddo barch mawr at y rhai y cyfarfu â nhw yn y dosbarthiadau addysg oedolion a gynhaliwyd ganddo ledled yr hen faes glo ac ysgrifennodd gyfrol ar ddelwedd y meysydd glo mewn rhyddiaith a barddoniaeth Gymraeg rhwng 1850 a 1950, Arwr Glew Erwau'r Glo (Gomer 1990). Golygodd 10 cyfrol unigryw Cyfres y Cymoedd ar lenyddiaeth a hanes y cymoedd (Gomer 1993-2003) a oedd hefyd yn ymgais i wneud yn iawn am fethiant llenyddiaeth Gymraeg i fynegi profiad y gymdeithas ddiwydiannol.
Ceir asesiad o gyfraniad ysgolheigaidd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn y ddarlith isod gan yr Athro Geraint H. Jenkins.