Prifysgol Abertawe yw noddwr y GwyddonLe, pafiliwn gwyddoniaeth yr Eisteddfod

Mae'r Brifysgol yn denu ymhell dros 40,000 i ymwelwyr yn flynyddol i'r Gwyddonle

Llun o babell y GwyddonLe ym Mae Caerdydd yn 2019

Y GwyddonLe yw'r babell wyddoniaeth ar faes Prifwyl yr Urdd

Ffurfiodd Prifysgol Abertawe bartneriaeth gydag Urdd Gobaith Cymru yn 2011 er mwyn cefnogi a datblygu y GwyddonLe, sef y babell wyddoniaeth ar faes Prifwyl yr Urdd. Mae staff marchnata Academi Hywel Teifi yn sefydlu ac yn cynnal pwyllgor o arbenigwyr y Gwyddorau o'r Brifysgol yn flynyddol i gynllunio a threfnu y gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer ymwelwyr ifanc o bob oed.

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau allestyn cyn wythnos yr Eisteddfod mewn ffurf ymweliadau ysgol, gweithdai a chystadleuthau. Mae Her Sefydliad Morgan wedi bod yn rhan o weithgareddau’r GwyddonLe ers 2018. Mae'n gyfle i ddisgyblion arddangos eu sgiliau rhesymu a dadlau yn ogystal â derbyn adborth gan ffigurau blaenllaw fydd yno’n beirniadu’r gystadleuaeth.

Trwy’r GwyddonLe mae’r Academi yn sicrhau bod modd i staff a myfyrwyr ôl-radd Gwyddorau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ddod â gwyddoniaeth yn fyw i'r degau o filoedd o bobl ifanc sy’n ymweld â’r Maes a rhoi llwyfan i arbenigeddau a phrosiectau gwyddonol y Brifysgol. Mae’r Academi wedi sicrhau bod y Gwyddonle wedi proffesiynoli a datblygu o ran diwyg y gofod a’r cyfleusterau ac allbwn, wrth weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cenedlaethol fel S4C.