Amdanom ni
Prosiect ymgysylltu â’r cyhoedd ac allgymorth ysgolion yw Oriel Science sy'n arddangos ymchwil Prifysgol Abertawe yn y gymuned. Dyma'r ganolfan wyddoniaeth a arweinir gan ymchwil gyntaf yn y DU a gynhelir gan brifysgol, ac mae'n ffenestr siop i bobl sy'n mynd heibio i weld, teimlo a chyffwrdd ag ymchwil prifysgol - lle perffaith i'r cyhoedd ymgysylltu ag ymchwil. Drwy greu ciplun o ymchwil y Brifysgol mewn arddangosiadau diddorol ac angerddol, mae'n ysgogi, yn addysgu ac yn ennyn brwdfrydedd pawb gan greu effaith drwy ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae Oriel Science yn targedu cymunedau â chyfraddau cyfranogiad gwael mewn addysg prifysgol.
Lansiwyd arddangosfa beilot yng nghanol y ddinas gan Oriel Science a ddenodd 16,000 o ymwelwyr a bron 1,000 o fyfyrwyr ar wibdeithiau ysgol a drefnwyd. Ers y peilot, mae Oriel Science wedi bod yn arddangos ymchwil y Brifysgol mewn dros 100 o ddigwyddiadau gan ryngweithio â 150,000 o bobl.
Ym mis Mai 2021, lansiwyd ein harddangosfa fwyaf yng nghanol y ddinas ac mae wedi denu miliynau o ymwelwyr a myfyrwyr ysgol er gwaethaf effeithiau Covid. Oriel Science yw'r profiad cyntaf o Brifysgol i 40% o'n hymwelwyr, gan gyflawni ein cylch gorchwyl i fynd i'r afael â than-gynrychiolaeth. Mae athrawon sydd wedi mynd â'u dosbarthiadau i ymweld ag Oriel Science wedi hoffi ein rhaglen o weithdai rhyngweithiol, gan ddweud:
Gweler ein gwybodaeth am ymweliadau ysgolion os hoffech gael mwy o wybodaeth.
Arweinydd y Prosiect: Athro Chris Allton